91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwlwm
Mistar Urdd Eisteddfod i Gaerfyrddin yn 2007
Ionawr 2006
Yn naturiol yn ddiweddar, wrth gyfarfod pobl, mi fydd pob sgwrs mewn rhyw ffordd yn arwain at Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2007.

Yn ddieithriad mi fydd un cwestiwn cyffredin yn cael ei ofyn. Wrth siarad mewn cyfarfodydd sefydlu pwyllgorau lleol ar gyfer yr Eisteddfod mewn gwahanol ardaloedd ar draws y Sir, mi fydd yr un cwestiwn yn cael ei ofyn. Does dim angen i chi fod yn berson clyfar iawn i ddyfalu beth yw'r cwestiwn "Ble mae'n mynd i fod?" "Ble fydd yr Eisteddfod?"

Yr oedd y wasg yr un mor eiddgar i ddod o hyd i'r gyfrinach gan awgrymu bod trefi'r sir ben ben a'i gilydd yn ymladd i gael yr Eisteddfod i'w cylch. Awgrymodd un gohebydd fy mod i siŵr o fod wedi alaru â'r holl gwestiynau. Doedd dim cyfrinach a doeddwn ni ddim wedi alaru. Mi roeddwn i fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yn falch dros ben o'r brwdfrydedd sydd wedi ei amlygu'n barod, a'r awydd sydd wedi bod mewn nifer o ardaloedd yn y sir i groesawu Eisteddfod yr Urdd i'w hardal, a hynny o Lanelli drwy Gaerfyrddin i Lanymddyfri. Braf yw gweld bwrlwm o weithgareddau sy'n cael eu trefnu a'u cynnal yn barod ymhob cwr o'r sir, a hynny cyn bod penderfyniad wedi ei wneud ar leoliad.

Deg a thrigain mlynedd yn ôl i eleni daeth Eisteddfod yr Urdd i Sir Gaerfyrddin ar ei hymweliad cyntaf. Cynhaliwyd Eisteddfod 1935 yng Nghaerfyrddin. Llanelli oedd lleoliad ail ymweliad Eisteddfod yr Urdd â'r sir a hynny ym 1939. Daeth i Rydaman ym 1957, Caerfyrddin eto yn 1967. Llanelli wedyn am yr ail-dro ym 1975 ac yna i Gwm Gwendraeth ym 1989. Mae gweithgarwch yr eisteddfod honno yn dal i ddylanwadu ar weithgareddau yn y fro drwy Fenter Cwm Gwendraeth.

Gwahoddwyd Eisteddfod yr Urdd i Ddyffryn Taf yn y naw degau ac yn ddiweddarach daeth awgrym am Eisteddfod yn Llandeilo, ond ni ddaeth hynny i ben. Gan na chafwyd Eisteddfod yn y sir yn ystod y nawdegau yr oedd llawer ar draws y sir yn frwd i gael yr Eisteddfod yma yn negawd cyntaf y Mileniwm newydd. Yn wahanol i Eisteddfodau'r gorffennol, Eisteddfod i'r sir gyfan fydd Eisteddfod 2007, sydd felly'n teilyngu'r enw 'Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Gar 2007'. Bydd y craff yn eich plith wedi sylwi bod hynny ddeugain mlynedd union i Eisteddfod yr Urdd a fu yng Nghaerfyrddin yn 1967.

Ar ôl wythnosau o ystyried, pwyso a mesur, a thrafod, daeth ateb i'r holl holi. Cafwyd adroddiadau a sylwadau gan nifer wrth i'r Pwyllgor Gwaith gytuno ar leoliad Eisteddfod 2007. Mi roedd yr argymhelliad yn dilyn adroddiadau gan y Pwyllgor Maes, un o swyddogion y Pwyllgor Gwaith a oedd wedi ymweld â'r safleoedd, adroddiad ar anghenion technegol ac ymarferol ynghyd â'r gwasanaethau, adeiladau, adnoddau ar gyfer rhagbrofion, cyfleustra parcio, llety a charafanio. Yr oedd yn rhaid ystyried diogelwch ac wrth gwrs gostau a materion ariannol.

Ar sail yr holl adroddiadau doedd dim amheuaeth mai cae'r Sioe Unedig yn Nantyci oedd yn cynnig ei hun fel y safle orau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Gâr 2007.

Tom T. Defis
Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý