Cau'r ysgol Caewyd yr ysgol yn 1974 wedi i ysgol newydd Nantgaredig gael ei hadeiladu, ond defnyddir yr adeilad o hyd ar gyfer plant o dan anfantais fel cangen o Ysgol y Myrddin yn y dre. Pan godwyd yr ysgol, cyfrannwyd tuag ati yn ariannol gan Eglwys Ebeneser, Abergwili a chynhelid oedfaon ac ysgol Sul yno am flynyddoedd yn enw Eglwys Ebeneser. Er bod cynifer o gapeli Methodistaidd yn y dyffryn, y mae capeli perthynnol i'r Bedyddwyr fel briwsion o gwmpas yr ardal, ac y mae Salem, Felingwm yn un o'r rhai hynny. Flynyddoedd yn ôl, pan oedd Yr Athro Owen o Goleg y Presbyteriaid yn gwasanaethu yn Salem, aelod byddar o'r gynulleidfa oedd Jones, Alltygog, gerllaw. Trefnai'r Athro Owen y byddai Jones yn cael copi o'r bregeth ymlaen llaw fel y gallai ddilyn adeg y traddodi. Y mae Salem yn dal yn weithgar ond, fel pob lle arall o addoliad y mae'r aelodaeth wedi gostwng. Nid oes Eglwys yn y pentref gan i Eglwys Abergwili fwrw'i chysgod dros y trigolion, mae'n siwr. Ar ddiwedd y 19eg ganrif, dilynodd Daniel Davies, Ty croes, ei dad Siors fel gwehydd yn y pentref. Rhigymwr, neu fardd talcen slip, a gymerodd yr enw Anellyn, oedd Daniel. Enillai wobrau yn yr Eisteddfodau lleol am gyfansoddi cerddi ar destunau yn ymwneud ag adeiladau neu bobl leol. Gwerth ei waith heddiw yw iddo gofnodi enwau cymeriadau a digwyddiadau ei ddydd yn y llyfryn o'i waith 'Y Bellen Fraith', teitl hynod o addas. Deil rhai o linellau'r bardd' ar gof yr ardal o hyd. Dyma'r gwpled a luniodd yn y fan a'r lle pan welodd ddyn meddw yn gwthio'i big i mewn i ddadl rhwng rhai o'r pentrefwyr. Peidiwch chi gweud dim, Bola chi'n rhy dynn. Er cymaint oedd dylanwad yr A40 wrth iddi ymlwybro trwy'r pentref bychan, rhaid peidio ag anghofio'r rheilffordd a oedd â'i gorsaf ble mae garej High Noon yn awr. Bu'n gymorth ychwanegol i gysylltu'r pentref â'r byd mawr y tu allan o 1864 hyd 1963 pan gaewyd y rheilffordd ar draws y dyffryn. Y mae trigolion y pentref wedi byw bywyd trwy gyfrwng y Gymraeg erioed, ond fel pobman arall, y mae tystiolaeth bod ty neu ddau wedi dod yn eiddo i deuluoedd ymhell y tu allan i'r ardal. Y gobaith yw y byddant yn ymdoddi yn gymdeithasol ac yn ieithyddol i fywyd Cymraeg Felinwen. Mae cerdd arall o waith Anellyn, yn Cwlwm,yn disgrifio'r pentref yn ei ddull dihafal ei hun, tua'r flwyddyn 1866. (Diolch i Brynmor Jones, brodor o Felinwen am ei gymorth parod). Len Richards
|