Merch o Rydaman yw Cerys, sydd bellach wrthi'n paratoi ei chartref newydd yn Ffairfach, ger Llandeilo. Mae ganddi gryn brofiad yn y maes newyddiadurol fel Gohebydd Celfyddydau i'r cylchgrawn Golwg ac yn ddiweddarach fel Gohebydd ir rhaglenni Heno, Wedi Chwech a Wedi Saith ar S4C. Derbyniodd radd gyfun BA mewn Cymraeg ac Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu o Brifysgol Cymru Aberystwyth yn 1999, cyn mynd ymlaen i dderbyn gradd uwch mewn Newyddiaduraeth o Brifysgol Cymru Bangor flwyddyn yn ddiweddarach. Mae Antur Teifi ar y cyd â Mentrau Iaith Myrddin wedi derbyn arian Amcan Un i gynorthwyo i ddatblygu ac ehangu pump o bapurau bro Sir Gaerfyrddin, sef Cardi Bach, Clebran, Cwlwm, Y Garthen ac Y Lloffwr. Bydd hyn yn eu galluogi i gydweithio yn agosach a rhannu o brofiadau ac arferion da ei gilydd. Y nod yw cydweithio gyda gwirfoddolwyr presennol y papurau er mwyn denu mwy o newyddion a nawdd a mwy o ddarllenwyr a chyfranwyr o bob oedran a phob carfan o'r gymdeithas. Drwy hyn gellir datblygu syniadau o'r newydd er mwyn ychwanegu at y cyfraniad aruthrol mae'r papurau yn ei wneud i'w cymunedau eisoes. Fe fydd y cyfan yn dod o dan arweiniad Rheolwr y prosiect, Cerys Bowen, a fydd yn arwain y tîm o ddau Olygydd, Swyddog Marchnata a Chynorthwy-ydd Gweinyddol. "Rwy'n gyffrous iawn i fod yn arwain y prosiect newydd hwn o'r dechrau'n deg," meddai Cerys. "Rwy'n edrych ymlaen at gynnig nifer o syniadau newydd i wirfoddolwyr y papurau bro, ac i gydweithio â'r cymunedau i ddenu mwy o ddarllenwyr a chyfranwyr er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus iawn i'r papurau. "Mae hwn yn gyfle gwych i ni ddatblygu mwy o greadigrwydd a diddordeb yn y papurau bro dan sylw, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr i fynd mas i'r cymunedau i gwrdd a chydweithio gyda nifer fawr o gymeriadau'r ardal." Ymysg nifer o bethau eraill, mae'r prosiect hefyd yn edrych i gryfhau colofnau amrywiol ac erthyglau penodol yn ymwneud â ieuenctid, dysgwyr, chwaraeon a'r anabl yn y papurau. Nid pwrpas y prosiect yw ysgwyddo gwaith y gwirfoddolwyr, ond yn hytrach weithredu mewn rôl gefnogol a chynorthwyo i ddatblygu syniadau newydd, cyffrous. Rhaid pwysleisio bod cyfraniad y gwirfoddolwyr sy'n rhoi o'u doniau a'u hamser bob mis yn bwysicach na dim, a thrwy adeiladu at y gwaith gwych a wneir eisoes, bydd modd sicrhau llwyddiant y papurau a pharhad y prosiect.
|