Digyfnewid yw rhai pethau. Y man isaf lle gellid croesi'r Tywi - ger rhyd y Rhufeiniaid a'r Celtiaid - benderfynodd leoliad pont Gaerfyrddin erioed, naw milltir o'r môr, eto'n uchel ar y llanw. Croesfan felly y drafnidiaeth dros dir a môr bu lleoliad tref hynaf a mwyaf Cymru, o oes yr Iesu hyd at oes cloddio glo y Cymoedd.
Bellach, wrth gwrs, nid oes argoel o adfer teithio Tywi, er hyfrydedd ei glannau ac er ei stôr o drysorau ar gyfer hamddena. Mynd 'da'r gwyntoedd ariannol wnaeth y llongau hwyliau, unwaith y ddolen gydiol rhwng Bro Myrddin a'r byd mawr tu hwnt. Nid yw Pont Brunel yn talu gwrogaeth mwyach i longau'r mastiau mawr a fedrai gludo Beiblau Griffith Jones o Fryste i'r Cei, a nwyddau fferm a phentref a phobl i'r Amerig. Ai dirwyn i ben mae oes y Cwrwgl, er euraidd ei hanes yn oes y Rhufeiniaid ac oes Cywyddwyr y Tywysogion?
Baromedr yr ymrafael am 'ddal dy dir' bu pont Canol Oesoedd Caerfyrddin. Darllenwn yng ngwaith Spurrell a J. a V. Lodwick er enghraifft am bont bren dros Dywi yn faes y gad yn oes Llywelyn Fawr rhwng y Cymry a'r Normaniaid. Codwyd pont islaw'r dref er mwyn atal cludo cymorth i gastell y Norman, ond daeth llynges y gelyn o Fryste i hyrddio drwyddi. Yn sgîl hyn oll mynnodd y Goron (Harri'r III) godi pont garreg o'r newydd ar draws yr afon, a throsglwyddo holl diroedd y Goron i'r mab a ddaeth maes o law'n adnabyddus fel Edward I. Digyfnewid hefyd fu'r angen drwy'r oesoedd i godi arian i gynnal a chadw pont. Codwyd treth ('pontage') am dair blynedd o 1326 i'r perwyl - ond erbyn hynny 'roedd y dref yn Dref Stapl, a maes o law yr unig Dref Stapl yng Nghymru (1353) a allasai allforio gwlân, crwyn a gwlangrwyn, er budd i goffrau'r dref.
Mwy fyth fu'r galwadau ar yr hen bont garreg hon gyda dyfodiad oes y Ffyrdd Tyrpeg a'r Goets Fawr a thrafnidiaeth y chwyldroadau mewn amaeth a diwydiant, y cynnydd mewn poblogaeth a'r corddi cymdeithasol a gwleidyddol. Drosti, yn y cyfnod helbulus hwn, tasgodd Catrawd y 'Dragoons' i erlid Merched Beca yn 1843. Hwyrach, newidiodd y baromedr eto, ac yn drawiadol iawn wrth i'r cledrau haearn ddisodli masnach afon a ffordd fawr. Codwyd pontydd gwahanol. Brunel gododd y bont wrthbwys i lein lydan y G.W.R. i'r gorllewin (a fodolodd tan 1872). Yr L.M.S. gododd y bont haearn ar y lein o gyffordd Myrtle Hill i gyfeiriad Llandeilo a'r Canolbarth. Ni chaewyd y bont i deithwyr tan 1965 ac i nwyddau tan 1973. Cludwyd glo drosti tan 1983 a'i dymchwel yn 1984. Yn 1911 codwyd pont G.W.R. newydd yn lle'r 'Bont Wen' ar 14 o bileri dur 100 troedfedd o ddyfnder yng ngwely'r Tywi - yr un sy'n rhydu yno o hyd.
Trodd y rhod eto. Cynyddodd cludiant o dunelli o nwyddau'r archfarchnadoedd fel y tyfodd y trefi torfol. Amlhaodd y lorïau mawr. Ffrwydrodd y masnach tanwydd. Rhaeadrodd yr angen am heolydd a theithio i'r Cyfandir, Yr Ynys Werdd a'r meysydd awyr. Drwy hyn oll, lledodd y Pla newydd, Pla y Peiriant Modur. Yr haid o locustiaid newydd oedd y ceir dirif.
Yr ymateb cyntaf i gynnydd oes y cerbyd oedd lledu pontydd a thorri ffyrdd newydd drwy dir glas. Yng Nghaerfyrddin gwelwyd hyn mor bell yn ôl â 1772 a 1828 pan ledaenwyd yr hen bont. Codwyd un newydd yn 1936. Rhwng 1960-70 dinistrwyd treftadaeth y dref ymhellach wrth ddymchwel tai a strydoedd rhwng y Cei a'r Clos Mawr. Yn ddiweddar gosodwyd ffyrdd a phontydd newydd yn yr ardal rhwng Nantycaws, Pensarn ac Abergwili, a phontydd newydd, fel Pont Lesneven (i nodi 3 chlod yr efaill dref yn Llydaw.)
Ar ôl hyn i gyd newidiodd y baromedr drachefn. Erbyn heddiw, onid cadw'r car allan o'r trefi yw cri'r cynllunwyr? Lledaenwyd y palmentydd, culhawyd y ffyrdd i draffig ar draws Caerfyrddin. Y bwriad yw cau Heol y Gwyddau. Culhawyd yn arw y lôn o amgylch yr ynys draffig wrth droed y Bont Grog newydd ochr y dref i'r afon. Pont i gerddwyr a beicwyr yw, mae'n debyg, yn y man lle bu'r Bont 'Bailey' ychydig yn ôl. Ai pont i grogi'r traffig yw hon? Ai lloc i 'Barcio a'ch Cludo' fydd ochr Gorsaf Rheilffordd y Tywi mwyach?
A oes cynlluniau na wyddom amdanynt ynglŷn â gwasanaeth bysiau bach, aml a rheolaidd i fynd a dod rhwng ardal yr Orsaf a'r hen dref, gan gynnwys er enghraifft y Farchnad a'r siopau. A fydd darpariaeth ar gyfer rhieni a'u plant, yr hen, y methedig a'r anabl?
Ceir her yma i unrhyw gorff llywodraethol, a chynllunwyr! A faint o ddemocratiaeth leol sydd ar ôl er mwyn i lais y bobl - y trethdalwyr - gael ei glywed? Amser a ddengys beth ddywed y bont newydd ar y baromedr.
Malcolm M. Jones