Mae Pwyllgor Apêl Eisteddfod yr Urdd 2007 Tref Caerfyrddin wedi gwahodd y Grŵp Beca o ardal Login at ei gilydd ynghyd â Dwy a Dime (Carol, Bet a Jean), yr hen ffefryn Phil Davies yr adroddwr digri o Hermon, y ddeuawd wefreiddiol Eirian a Meinir o Gwmann ger Llambed, Meinir Lloyd a Chôr Telynau Tywi yn ôl i ganu 'Cân y Celt' a chaneuon eraill, y cyn-enillydd cenedlaethol Yvonne Francis, y ddau grŵp lleol Y Diddanwyr a Y Melinwyr, y ddeuawd swynol Elin ac Eleri, a'r gantores a chyn Miss Asbri o Cross Hands - Rhian Rowe.
Bydd ymddangosiad arbennig gan yr anfarwol Ronw James Caerfyrddin, enillydd dros gant o gwpanau am ganu emyn. Fe ddaw Catrin Dafydd bob cam o Batagonia ac mae'n debyg y bydd sawl syrpreis arall.
Cyflwynir y noson gan Peter Hughes Griffiths. Y llywyddion fydd Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Roy Llewellyn, a Rhoswen ei wraig. Un o'r gwahoddedigion fydd Elfyn Lewis, Llanpumsaint - un a fu'n diddori cynulleidfaoedd am ddegawdau gyda'i berfformiadau digri.
Pris tocyn yw £7 a byddant ar gael yn Siop y Pentan ac M&J Caerfyrddin neu gan aelodau'r Pwyllgor. Ffoniwch 01267 232240 i archebu eich tocynnau ymlaen llaw. Mae hon yn argoeli bod yn noson fawr yn hanes adloniant yng Nghymru.
|