Beth yw eich cefndir chi?
Brodor o Hendygwyn ydw i yn wreiddiol. Derbyniais fy addysg gynradd yn Hendygwyn cyn mynychu Ysgol Gyfun Bro Myrddin yn 1980. Roedd yn rhaid talu am gael ein cludo i dderbyn addysg ddwyieithog a mawr yw fy niolch i'm rhieni am wneud hynny. Am 8 o'r gloch bob bore byddai'r trên o Aberdaugleddau i Lundain yn ein llyncu, cyn poeri fy mrawd a minnau allan ar y platfform yng Nghaerfyrddin. Cwblhau'r daith trwy gerdded o'r orsaf tuag at hen adeiladau Bro Myrddin a cheisio cyrraedd cyn i'r gloch i ganu.Pa fath o le oedd Bro Myrddin yn ystod y dyddiau cynnar?
Un teulu mawr. Rhyw 400 o blant oedd yn yr ysgol a phawb yn adnabod ei gilydd. Cyflwynwyd deiet o brofiadau addysgiadol, cymdeithasol a diwylliannol a daniodd y dychymyg ac a fagodd gariad at iaith a chenedl. Bum yn ffodus i gael fy ysbrydoli gan lu o athrawon ond mae'n rhaid estyn fy niolch i Gareth Evans, Wynne ac Eira Jenkins, Yvonne Francis, Desmond Davies a Gareth Jones am ysgogi fy niddordeb mewn llenyddiaeth a hanes Cymru.
Yn ystod fy nghyfnod yn yr ysgol hefyd daliodd geneth benfelen o bentre Llangain fy llygad ac ar ôl cwrso a chwrso llwyddais i ennill ei chalon. Mae Fiona a minnau wedi bod yn briod ers 1992. Mae gennym dri o blant sef Tomes, Ifan a Mali ac mae'n rhyfedd meddwl y bydd ein mab hynaf sef Tomos yn dechrau ym Mro Myrddin ym mis Medi.
Eglurwch sut y datblygodd eich diddordeb ym myd y Ddrama?
Doedd drama ddim yn cael ei gynnig fel pwnc ar y cwricwlwm yn ystod fy nghyfnod yn yr ysgol ond cefais lu o brofiadau theatrig yn y capel a gyda'r Urdd a wnaeth fy argyhoeddi i ddilyn cwrs drama ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yno bu^m yn ffodus i dderbyn arweiniad y ddiweddar Emily Davies a hefyd gan Elan Closs Stephens. Roedd nifer o fyfyrwyr drama ar y pryd yn dilyn gyrfa yn y cyfryngau ar ôl graddio ond roedd byd addysg yn fwy apelgar i mi'n bersonol.
Cychwynais fy ngyrfa fel athro yn 1992 ac ers 1994 rwy wedi bod yn Bennaeth yr Adran Ddrama. Mae'r pwnc yn hynod o boblogaidd yn yr ysgol gyda 30 o fyfyrwyrbellach yn dilyn y cwrs Lefel A.
Mae'n hyfryd gweld adrannau drama cryf yn ein hysgolion a'n colegau lleol sy'n sicrhau bod ein talent ifanc yn cael cyfle i feithrin eu talentau a chael yr hyfforddiant gorau. Yr hyn sydd ei angen yw mwy o ddeunydd ffres a gwreiddiol trwy gyfrwng y Gymraeg a fydd yn rhoi cyfle i'r actorion ifanc yma i arddangos eu talentau ar lwyfannau'r genedl.
Rwyt ti'n athro yn Ysgol Dyffryn Taf yn Hendygwyn. Ydy'r pentre wedi newid ers dy blentyndod?
Rwy'n cofio byw ein bywydau yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg. Chwarae yn Gymraeg yn yr ysgol gynradd a chymdeithasu yn Gymraeg ar y meysydd chwarae, yn y capel neu yn y gymuned. Er bod y system addysg yn ceisio gwarchod y traddodiadau hyn, Saesneg yw'r iaith chwarae bellach.
Mae'n anodd credu hefyd effaith cau'r ffatri laeth ar y pentre. Rwy'n cofio mam yn prynu a siopa bwyd yr wythnos i gyd yn siopa'r Stryd Fawr yn Hendygwyn. Bellach a'r ffatri'n rwbel a Chaerfyrddin ond rhyw chwarter awr i ffwrdd mae'r siopau bach i gyd wedi cau. Diolch byth bod unigolion pybyr yn ymdrechu i wyrdroi'r sefyllfa.
Mae'r pentref yn ffodus bod swyddfa Menter Taf Myrddin yng nghanol y pentref. Mae'r gwaith cymunedol sy'n cael ei gyflawni gan Iwan Evans a'r tîm yn hanfodol bwysig.
Rydych yn Gadeirydd Menter Taf Myrddin. 'Pa mor bwysig yw gwaith y Mentrau iaith yn ein cymunedau?
Mae ffigyrau cyfrifiad 2001 yn rhoi'r argraff bod y frwydr ieithyddol wedi ei hennill, ond gallaf eich sicrhau fod y ffigyrau yma'n hollol gamarweiniol. Mae'r iaith yn ardal Taf Myrddin o dan fygythiad ac yn wynebu argyfwng difrifol. Mae gan y mentrau iaith rôl allweddol wrth geisio atal y dirywiad ieithyddol yma. Mae Iwan Evans, ein rheolwr ardal, yn gweithio'n ddi-flino i geisio gwarchod a hybu'r defnydd o'r iaith yn ein cymunedau.
Erfyniaf ar ddarllenwyr y Cwlwm sydd, wedi'r cyfan yn rhan-ddeiliaid yn y fenter i gefnogi unrhyw weithgaredd neu ddigwyddiad a drefnir. Dydy mudiadau a sefydliadau ddim yn ymwybodol efallai o'r hyn y gall y Fenter ei gynnig o safbwynt hyrwyddo eu gwaith cymunedol. Ffoniwch y swyddfa yn Hendygwyn a mynnwch sgwrs gydag Iwan ynglŷn â sut y gall y Fenter eich helpu chi.
Beth yw dy ddiddordebau?
Chwaraeon. Fy ngwendid mwyaf. Rwy'n dal i fod yn chwarae pêl-droed bob prynhawn Sadwrn er gwaetha cwynion y wraig. Rwy'n chwarae ers dros ugain mlynedd bellach ac wedi bod yn ffodus i gyfarfod â nifer o gymeriadau lliwgar a chynrychioli nifer o dîmoedd lleol.
Y cymeriadau yma wrth gwrs yn aml sy'n rhoi oriau o'u hamser personol er mwyn sicrhau parhad y clybiau bach yma ar hyd a lled y wlad. Gallaf ddweud yn hollol ddiflewyn-ar-dafod bod Walter Tomos' ac Arthur Picton' i'w cael mewn sawl clwb yng Ngheredigion a Chaerfyrddin!!!
Rwy hefyd yn hyfforddi plant cynradd y fro yn y ganolfan hamdden bob nos Lun. Sefydlwyd 'Teirw Tywi' gan Simon Rocke a minnau yn 1997 a bellach mae tua chwe deg o blant yn mynychu'r sesiynau ymarfer ac yn cynrychioli'r clwb ar fore Sadwrn. Mae talent y bechgyn a'r merched a'r awch sydd ganddynt i wella a datblygu eu sgiliau yn anhygoel. Yn fy marn i mae dyfodol y gêm yng Nghymru yn ddiogel. Mae Caerfyrddin wedi cynhyrchu sawl cawr ym myd y bel hirgron, byddai'n braf petai'r Ryan Giggs' nesa yn dod o Gaerfyrddin!
Pwy ydych yn ei enwebu ar gyfer y mis nesaf?
Eldeg Rosser, Abergwili.