Y drefn arferol yw bod Pwyliaid yn mynd i Gymru i weithio ond dwi wedi mynd i'r cyfeiriad arall a dod i weithio yma yng Ngwlad Pwyl.
Ym mis Medi gadewais i Gaerfyrddin i ddod i ddysgu Cymraeg, ac ychydig o Saesneg, ym Mhrifysgol Gatholig dinas Lublin yn nwyrain Gwlad Pwyl.
Alla i ddim addo bydd y Pwyliaid sy'n symud i Shir Gâr o hyn ymlaen yn clebran yn Gymraeg ond mae'r ymateb wedi bod yn dda iawn hyd yn hyn.
Mae'n rhaid i'r myfyrwyr sy'n astudio Saesneg yn y brifysgol astudio iaith arall fel rhan o'u gradd, ac mae dros 80 o fyfyrwyr wedi dewis astudio'r Gymraeg.
Cyflwynir y Gymraeg a'r Wyddeleg yma ers tua ugain mlynedd ac mae cydweithiwr i fi, Alek Bednarski, yn Bwyliad sydd wedi dod yn rhugl diolch i'r cwrs.
Maen nhw'n ynganu'r Gymraeg yn ardderchog ac mae'r ffaith fod y Bwyleg yn iaith gymhleth o ran gramadeg yn golygu nad yw treigladau yn poeni llawer arnynt.
Serch hynny mae 'll' yn achosi problemau felly mae Pwyliaid Llanelli siwr o fod yn ei chael hi'n lletchwith!
Mae'r brifysgol ei hun, sef Prifysgol Gatholig John Paul II i gael rhoi ei theitl llawn, yn sefydliad diddorol.
Sefydlwyd hi gan yr eglwys yn nechrau'r 20fed ganrif ac mae ethos Gatholig iddi o hyd - mae'n rhaid i'r holl fyfyrwyr astudio o leiaf ychydig o ddiwinyddiaeth, mae'r groes ar y wal ym mhob ystafell, a lleianod sy'n rhedeg y neuaddau preswyl.
Archesgob talaith Lwblin yw'r Uwch-Ganghellor ac mae adran ddiwinyddiaeth fawr yma lle astudia llawer o offeiriadon a darpar-offeiriadon.
Yng nghyfnod Comiwnyddiaeth hon oedd yr unig brifysgol annibynnol tu ôl i'r Llen Haearn a bu'r diweddar Bab John Paul II yn Athro yma.
Mae crefydd yn amlwg iawn yn y gymdeithas yma a mae llawer o'm ffrindiau yn mynychu eglwys ar y Sul.
Mae bod yn Babydd yn rhan bwysig o'r ymdeimlad o fod yn Bwyliad ac mae'r Eglwys Gatholig yn sefydliad dylanwadol yn y gymdeithas yn ogystal a byd gwleidyddol yma, er nad yw hynny wrth fodd pawb chwaith.
Cyn yr Ail Ryfel Byd roedd crefydd arall yn amlwg yma, sef Iddewiaeth.
Lublin oedd un o ddinasoedd mwyaf Iddewig Ewrop gyda thraean y boblogaeth yn Iddewon ac yn byw mewn un ardal gyfyng.
Dymchwelodd y Natsïaid yr hen ghetto a chludo'r mwyafrif o'r Iddewon i'w marwolaeth yng ngwersyll Majdanek ar gyrion y ddinas, sydd bellach yn amgueddfa ddirdynnol iawn.
Des i Wlad Pwyl gan ddisgwyl gweld lle eitha llwm a hen-ffasiwn, yn arbennig yma yn y dwyrain ger y ffin â'r hen Undeb Sofietaidd, ond nid felly mae.
A dweud y gwir roedd gweld arwyddion llachar yn Lublin yn hysbysebu Starbucks, Tesco a HSBC yn dipyn o siom o sylweddoli fod dinasoedd a threfi Ewrop bellach yn debyg iawn i'w gilydd.
Mae Pwyl wedi newid yn aruthrol ers cwymp Comiwnyddiaeth ugain mlynedd 'nôl, ac yn debygol o newid eto fel un o aelodau diweddara'r Undeb Ewropeaidd.
Mae unrhyw un sydd dros 30 oed yn cofio dogni bwyd pan oedd yn rhaid ciwio gyda'r papurau priodol er mwyn prynu bara a chig, a rhoi cildwrn neu fodca i'r siopfeistr er mwyn cael mwy nag oedd fod.
Erbyn hyn atyniad mwyaf Lublin yw'r Plaza, sef canolfan siopa newydd 4-llawr sy'n cynnwys siopau cadwyn rhyngwladol yn bennaf.
Mae'r Pwyliaid yn eitha tebyg i'r Cymry o ran synnwyr digrifwch, eu hoffter o gymdeithasu dros ddiod, ac o ran y ffaith bod ganddyn nhw feddylfryd gwlad fach.
Er mai Pwyl yw un o wledydd mwyaf Ewrop o ran maint a phoblogaeth, mae'r profiad o gael eu dominyddu gan eu cymdogion yr Almaen a Rwsia dal yn fyw yn y cof ac wedi gadael ôl ar y Pwyliaid, yn bennaf yn eu diffyg hyder cenedlaethol.
Hoffwn i ychwanegu nad fi yw'r unig Gymro sydd yn y wlad, gan fod Bryn Jones o Ynys Môn hefyd yn 'cenhadu'r' Gymraeg mewn prifysgol yn Poznan yn ngorllewin Pwyl.
Mae'n deyrnged i'r Pwyliaid eu bod nhw'n cynnig iaith 'fach' fel y Gymraeg fel pwnc prifysgol, ac mae'n rhyfedd bod rhai Pwyliaid yn graddio o brifysgolion ym Mhwyl wedi cael mwy o addysg yn y Gymraeg na mwyafrif graddedigion prifysgolion Cymru!
Cofion cynnes at bawb yng Nghaerfyrddin a hwyl o Bwyl!
Do widzenia!