Siaradodd Mr Alun G. Davies (Cyfarwyddwr Addysg) ar ran y Cyngor Sir gan ddatgan cefnogaeth lawn Cyngor Sir Gaerfyrddin i'r fenter gyffrous. Yn ogystal, mynegodd Cadeirydd y Mudiad, Rhiannon Lewis a Chadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod, Tudur Dylan Jones eu cefnogaeth i'r ŵyl. Yn ogystal â'r siaradwyr gwadd, cafwyd perfformiad arbennig gan Gwmni Theatr Ieuenctid Cwm Gwendraeth, gan mai yng Nghwm Gwendraeth ym 1989 oedd y tro diwethaf i'r Eisteddfod i ymweld â Sir Gâr. Braf oedd gweld derbyniad cynnes y gynulleidfa i enwebiad Tom Dafis fel Cadeirydd yr ŵyl. Mae Tom wedi bod yn weithgar dros yr Urdd yn Sir Gaerfyrddin ers blynyddoedd mawr.
|