Ysgol Gynradd y Dderwen oedd fy ysgol i wedi i'r teulu symud i Langynog pan oeddwn i'n 6 oed. Mi es i ymlaen i Fro Myrddin, gan gael blas ar farddoniaeth am y tro cyntaf wrth astudio Cymraeg TGAU. Os cofiaf yn iawn, gwnaeth hir a thoddeidiau hyfryd Dic Jones o'i awdl Y Cynhaeaf argraff ddofn arnaf, yn arbennig eu halaw rhythmig a'u hacennu cryf. Mi es i ymlaen i ddysgu fy hun i gynganeddu gyda chymorth Clywed Cynghanedd, Myrddin ap Dafydd. Daeth y farddoniaeth yn ei sgîl.
Mi es i Aberystwyth i wneud gradd mewn Cymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu, cyn mynd ymlaen i ddilyn cwrs MPhil. yn y Gymraeg ar Ganu Cynnar Guto'r Glyn. Rwy'n gobeithio derbyn y radd honno yn yr haf. Ar hyn o bryd rwy'n cyfieithu i Lywodraeth Cynulliad Cymru yn Aber.
Rydw i wedi ennill nifer o gadeiriau bychain, o eisteddfodau'r ysgol i Eisteddfod Llanbed, ynghyd â thair cadair yr Eisteddfod Ryng-golegol. Er fy mod yn ystyried cadair yr Urdd eleni fel y gadair fawr gyntaf imi ei hennill, roedd un o gadeiriau buddugol y Rhyng-gol yn fawr hefyd - yn wir, yn rhy fawr - boncyff coeden fawr wedi ei lifio i siâp cadair sydd ar hyn o bryd yn eistedd/bwrw ei gwreiddiau yn y garej adref!
Doedd hi ddim yn fwriad gennyf anfon dwy gerdd i'r gystadleuaeth ar y cychwyn. Ysgrifennais yr awdl a ddaeth yn ail amser maith yn ôl, cyn y Nadolig, gan ei rhoi o'r neilltu yn fodlon gyda'r ffaith fod gennyf rywbeth i'w anfon i'r gystadleuaeth. Daeth y llall ar fympwy a dweud y gwir, wedi i Rhiannon, fy nghariad, fynd i Iwerddon am benwythnos gyda'r ysgol (mae hi'n athrawes yn Ysgol Gynradd Plascrug, Aber), a chael bod gennyf lot o amser i'w wastraffu. Rhyw wythnos oedd i fynd tan y dyddiad cau, felly wedi ei dechrau, rhaid oedd ei gorffen, fel petai - a rhaid hefyd oedd ufuddhau i ordors Rhiannon i fwrw'r maen i'r wal wedi iddi ddychwelyd adref!
Yn bersonol, mae'n well gennyf i yr awdl a ddaeth yn ail - felly y mae hi pan ddaw hi'n fater o farn rhyngof i a beirniaid yr Urdd mae gennyf ofn! Rhoddais fwy o feddwl i'r awdl honno, ac rwy'n credu bod llawer mwy o ddyfnder ynddi - er na ddewisodd y beirniaid roi sylw i rai darnau yr oeddwn yn hoff iawn ohonynt yn yr awdl fuddugol hithau. Rwy'n teimlo bod unrhyw farddoniaeth sy'n ymddangos yn gymhleth ar yr olwg gyntaf yn codi ofn ar feirniaid yn gyffredinol y dyddiau hyn. O ran y dyfodol, rwy'n bwriadu, neu'n gobeithio cael cyfle i ddarllen mwy o farddoniaeth yn gyhoeddus ac ar lafar, ac am geisio neilltuo mwy o amser yn gyffredinol i farddoni.
|