Cerddodd Canon Thomas 50 milltir i godi arian ar gyfer gwaith atgyweirio i Eglwys Dewi Sant. Dinistriwyd rhan o'r adeilad ym mis Tachwedd y llynedd pan gwympodd darn sylweddol o dalcen dwyreiniol corff yr eglwys i mewn i'r gangell. "Mae'n gwbl wyrthiol na chafodd neb niwed," dywed Canon Patrick, "Er gwaetha'r her sydd o'n blaen ni i adfer yr eglwys, mae gennym lawer i ddiolch i Dduw amdano." Man cychwyn y pererindod oedd y Clôs Mawr, pen dwyreiniol plwyf Dewi Sant. Dymunwyd yn dda i'r Canon a'i gyd-bererinion gan Gadeirydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, Y Cyng. Dilwyn Williams, a Maer Tref Caerfyrddin, Y Cyng. Peter Hughes Griffiths. Croesawyd y pererinion yn ystod eu taith gan y meiri yn Sanclêr, Hendy-gwyn ar Daf, Arberth, Hwlffordd a Thyddewi, a daeth sawl clerigwr i fendithio'r cerddwyr wrth iddynt fynd trwy eu plwyfi. Yn eu plith oedd dau offeiriad â'u gwreiddiau yng Nghaerfyrddin: Canon Derek Evans, Hwlffordd, a'r Parchedig Peter Lewis, Arberth. Ar y diwrnod cyntaf cerddodd y pererinion mor bell â Hendygwyn, lle roddwyd croeso arbennig iddynt yng Nghanolfan Hywel Dda. Aethant ymlaen trwy Arberth i Glwb Golff Hwlffordd at y dydd Mercher. Ar ddechrau trydydd dydd y daith cafwyd derbyniad swyddogol i'r pererinion ym Mharlwr Maer Hwlffordd. Teithiasant i Solfach y diwrnod hwnnw. Daeth y pererindod i'w derfyn ar y dydd Gwener wrth i'r cerddwyr fynd yn hamddenol yn yr haul ar hyd llwybr yr arfordir o Solfach i Gapel Non. Cynhaliwyd gwasanaeth arbennig i roi diolch am y pererindod yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn y prynhawn. Gweinyddwyd y Cymun Bendigaid gan y Deon, Y Tra Pharchedig J. Wyn Evans. "Cawsom gymorth gan lu o bobl wrth baratoi ar gyfer y pererindod," medd Canon Patrick. "Trefnwyd y daith yn ofalus gan Mr Malcolm Jones a Mr Eric Jones, ac rwy'n ddiolchgar dros ben iddynt ac i bob un arall a fu'n helpu. Comisiynodd un o aelodau'r eglwys bastwn arbennig gyda wyneb Dewi Sant wedi'i gerfio arno i'm cynorthwyo wrth gerdded. Roedd fy nghydgerddwyr yn bobl hyfryd a'r derbyniad ar hyd y ffordd yn ardderchog. Gwerthfawrogaf garedigrwydd pobl Caerfyrddin a'r cylch sydd wedi noddi'r pererindod gyda haelioni neilltuol. Nid yw'r arian i gyd wedi dod mewn eto, ond rydym yn ffyddiog ein bod wedi codi rhai miloedd o bunnoedd at yr atgyweirio. Bellach mae'r traed yn dost ond yr ysbryd yn uchel a'r galon yn llawen tu hwnt." Dyma'r ail dro i'r Canon Patrick Thomas bererindota i Dyddewi. Fe gerddodd a bodiodd ei ffordd yno o'r Amwythig yn 1972 pan roedd yn fyfyriwr ifanc, di-Gymraeg. "Roeddwn yn llawer sioncach bryd hynny," meddai'r Canon. "Chwaraeodd y daith honno ran allweddol yn fy ngalwad i'r offeiriadaeth a'm penderfyniad i ddod yn ôl i Gymru a meistrioli iaith fy nghyndadau. Byddaf yn ddigon hapus os bydd yr ail bererindod hwn yn fodd i helpu ail-agor Eglwys Dewi Sant - eglwys plwyf Cymraeg hynod o hardd."
|