91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwlwm
Gwynedd Gibbon Gwynedd Gibbon yn y ffrâm
Mai 2006
Portread Mai 2006 ym mhapur bro Cwlwm ydy Gwynedd Gibbon.
Ble mae'ch gwreiddiau?
Fe'm ganwyd yn Gwyddgrug ger Pencader ar fferm fach o'r enw Delfryn ar amser pan oedd ffermwyr yn medru gwneud bywoliaeth o ugain erw o dir. Y capel oedd canolbwynt y gymuned ac yn y fan honno byddai popeth yn digwydd - yn ogystal â'r cwrdd o Sul i Sul cynhaliwyd yr eisteddfod flynyddol yno, y cyngherddau oll, ac hyd yn oed y pwyllgor gymunedol yn y festri.

Y cof cyntaf sydd gennyf yw y Parch Tom Rees yn weinidog arnom ac yna fe ddaeth y Parch Gerallt Jones o Lanuwchllyn a buan y sylweddolais mod i ddim yn medru canu gan i Mrs Elisabeth Jones ddweud yn go bendant wrtha'i yn yr ysgol Sul, "Sdim clust da chi Gwynedd"- a finne'n meddwl bod 'da fi ddwy!

Beth yw atgofion eich plentyndod?
Atgofion o gymuned oedd yn glos iawn sydd gennyf - un lle'r oedd cymdogion yn helpu ei gilydd yn enwedig adeg y cynhaeaf gwair. Wrth weld un fferm yn dechrau cywain byddai 'na dractor a chart yn disgyn o bob cyfeiriad nes bod y cae yn glir mewn pen chwinciad ac yna mla'n i r ffarm nesaf wedi mwynhau cwmnïaeth ddifyr gyda'n gilydd yn yr ydlan dros baned o de o'r sten.

Yna mynd o'r wlad i'r dref yn flynyddol am wythnos, o Wyddgrug i'r Wyddgrug a hynny at Anti Jennie ac Wncwl Eirian yn y Mans. Byddai Siôn a Guto yn dod yn ôl am wythnos wedyn i'r wlad a byddem i fyny i bob math o ddrygioni.

Addysg
Doeddwn i a'r ysgol ddim yn dod ymla'n yn dda iawn. Doedd hynny ddim yn fai'r athrawon cofiwch chi. Triodd Miss Richards yn galed iawn gyda fi yn ysgol fach New Inn ac yna ymlaen i Ysgol Ramadeg Llandysul lle cefais y fraint o gael gwersi gan Mr Malcolm Jones oedd yn dysgu yn yr adran hanes ar y pryd ond gadawodd o fewn dwy flynedd - nid o'm herwydd i gobeithio!

Yna penderfynais fynd i Gelli Aur i ddilyn cwrs amaethyddol ond ennyn diddordeb mewn trydan o dan arweiniad Mr Les Jones. Arweiniodd hyn yn ddiweddarach i mi gael gwaith gyda chwmni larymau ac yna cael y cyfle i ymuno â dau arall i ffurfio cwmni newydd - Larymau Dyfed.

Sut mae'r busnes wedi datblygu?
Ar y dechrau gwerthu larymau atal lladron oedd naw deg wyth y cant o'r gwaith ond erbyn hyn mae llawer iawn o'r gwaith yn cynnwys camerâu cylch cyfyng, larymau tân a rheoli mynediad mewn adeiladau cyhoeddus fel ysgolion a swyddfeydd. Arwydd o'r amserau ry'n ni'n byw ynddynt.

Caerfyrddin?
Bu farw fy nhad, a mam-gu oedd yn byw ar yr aelwyd yn Gwyddgrug, yn yr un flwyddyn pan oeddwn yn ddwy ar bymtheg oed ac yn Gelli Aur ar y pryd ac felly penderfynodd fy mam ymddeol a symud i Benymorfa, Caerfyrddin. Buais i fawr o dro cyn cwrdd â Helen ac mae'r gweddill yn hanes. Yn wir rydym newydd ddathlu ein Priodas Arian y mis diwethaf.

Diddordebau
Rwy'n hoff o botsian o amgylch y tŷ^ yn gwneud unrhyw beth sy'n ymarferol fel gwaith trydan neu bren ac yn ddiweddar wedi ymuno â dosbarth gwaith coed Alan Roberts a chael hwyl anghyffredin yn y fan honno pan mae amser yn caniatâu i mi fynd. Rwy'n hoffi sgio a bydd y ddau ohonom yn mynd yn flynyddol i'r llethrau ac yn ddiweddar ry'n ni wedi bod sawl gwaith gyda'r Gymraes Anita Shenk a'i gwr Hainz yn Altenmarkt yn Awstria. Daw Anita o Flaenau Ffestiniog ac y mae'r croeso Cymreig amlwg yn ein gwneud yn hollol gartrefol. Mae'r ddau ohonom yn hoff o deithio a gyda chysylltiad Helen â chorau ry'n ni wedi bod yn crwydro eitha tipyn yn enwedig i Awstria, yr Almaen, Pwyl a'r Weriniaeth Siec a'r UDA.

Mae fy nyletswyddau'n amrywio o gario bagiau, i ddyn camera, i fod yn dipyn o bopeth. Rhyfedd bod y bachgen oedd yn y festri gynt "heb glust" i ganu wedi cael cymaint o deithiau corawl!

Enwebu mis nesaf?
Mr Dewi Thomas


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý