Mae cwmni Simons yn datblygu Canolfan Siopa newydd ar safle'r hen fart yng nghanol tref Caerfyrddin ac fe ddaeth yn amser i ystyried rhoi enw parhaol ar y ganolfan hon. Hyd yn hyn, mae Simons eu hunain wedi defnyddio "St. Catherine's Walk" fel enw ar eu datblygiad ac wedi ei gyfieithu i "Rhodfa'r Gwyddau". Mae hyn yn deillio o'r ffaith mai "HEOL Y GWYDDAU" yw'r arwydd Cymraeg ar ST. CATHERINE'S STREET.
Mae llawer iawn o bobl a chymdeithasau'n anhapus iawn ar y "gymysgfa hon".
Meddyliwch am roi arwyddion dwyieithog i fyny sy'n cynnwys "CANOLFAN SIOPA RHODFA'R GWYDDAU - SAINT CATHERINE'S WALK SHOPPING CENTRE".
Trefnodd Cymdeithas Ddinesig Caerfyrddin ddirprwyaeth yn ddiweddar i drafod enw i'r Ganolfan Siopa newydd hon gyda rhai o swyddogion y Cyngor Sir.
Ystyriwyd sawl enw a oedd yn berthnasol i'r lleoliad ac i'r cefndir hanesyddol.
Ar y safle hwn roed y ffordd LON Y FFAIR ac, wrth gwrs, safle'r hen fart. O gofio bod dau ystyr i'r gair 'FFAIR' - sef marchnad (yr hen farchnad anifeiliaid) a lle i ymblesera (safle'r hen ffeiriau pleser), cytunwyd y byddai'r enw MAES Y FFAIR yn cyfleu'n berffaith gefndir hanesyddol y lle.
Byddai "CANOLFAN SIOPA MAES Y FFAIR SHOPPING CENTRE" yn berffaith ac yn rhwydd i'w ddweud a'i ddefnyddio.
|