91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwlwm
Dr Medwin Hughes, Prifathro Coleg y Drindod Portread y Mis: Dr Medwin Hughes, Prifathro Coleg y Drindod
Rhagfyr 2002
Fe'm ganwyd ar Ynys Môn ac mae diwylliant gwlad y medra' a'i thraddodiadau wedi bod yn bwysig i mi ar hyd fy oes. Treuliais fy mlynyddoedd cynnar yn Llangefni; yn naw oed symudom i fyw at fy nhaid a nain yn Llannerchymedd.

Pentref ag iddo draddodiadau arbennig a stôr o gymeriadau cefn gwlad a gafodd ddylanwad mawr arnaf. Symud yn ddeuddeg yn ôl i Langefni, yno mae'r cartref.

Pwy a beth ddylanwadodd fwyaf arnoch?
Bu'r dylanwadau yn niferus. Fy nheulu, wrth gwrs. Dim ond yn awr yr ydw i'n llawn werthfawrogi pa mor bwysig oedd traddodiad capel a'r diwylliant pentref. Cafodd y diweddar Barchg. Huw Wynne Griffiths, Gweinidog Seilo Aberystwyth a'r diweddar Athro Harri Williams ddylanwad arnaf yn ystod dyddiau Coleg.

Bu'r cyfle i weithio i gyrff fel Cyngor Ewrop a Senedd Ewrop yn allweddol. Bu delio gyda gwleidyddion a dysgu gwleidydda ym maes ieithoedd llai Ewrop yn rhan bwysig o ddatblygiad fy ngyrfa.

Soniwch am eich gyrfa.
Bum yn ffodus. Ar ôl gadael y Coleg yn Rhydychen, cael cyfle i wneud ymchwil gyda'r Swyddfa Gymreig, ac yna dod i Goleg y Drindod i ddarlithio yn y Gymraeg a symud wedyn i'r Brifysgol yng Nghaerdydd.

Efallai mai'r hyn sydd fwyaf diddorol yw'r cyfleoedd a gefais i ymgymryd â gwaith cyhoeddus ar lefel Genedlaethol (Cymru) a Rhyngwladol.

Daw rhai digwyddiadau amlwg i'r cof: cyfarfodydd yn Slofenia, Estonia a Lithiwania i ddatblygu deddfau diwylliant a hawliau iaith ar ôl cyfnod y chwyldro, profiadau hanesyddol pan oedd diwylliannau a gwladwriaethau newydd yn cael eu creu.

Mae'r Gymraeg yn bwysig i mi ac rwyf wedi mwynhau'r cyfle o gyfrannu trwy waith cyhoeddus fel aelod o Fwrdd yr Iaith. Bum yn gwasanaethu'r Bwrdd ers dros ddeng mlynedd bellach ac mae wedi bod yn brofiad hynod i weld bwrdd statudol yn datblygu i fod yn un o brif gyrff cynllunio ieithyddol Ewrop.

Roedd dod i Brifathrawiaeth Coleg y Drindod ddwy flynedd yn ôl yn golygu llawer i mi. Rwy'n credu mai fi oedd y Prifathro ifancaf ym Mhrydain i gael ei apwyntio. Ni fum i erioed yn greadur a oedd yn aros yn unman yn hir, - mae'n batrwm gennyf i ddatblygu prosiect, ei weld drwodd ac yna symud ymlaen.

Y dyfodol - pwy a wyr? Yn sicr y mae gennyf dipyn i'w wneud yng Ngholeg y Drindod. Rwy'n awyddus i ddatblygu polisi celfyddydol mwy grymus yng Nghymru. Teimlaf fod y Llywodraeth yn awr wedi gosod agenda radical o bod angen i unigolion i weithredu a datblygu asiantaethau newydd a fydd yn dangos bwrlwm diwylliannol Cymru gyfoes.

Faint yw oed y plant erbyn hyn? Dywedwch ychydig o'u hanes.
Mae Fiona a minnau'n ffodus iawn o'r bechgyn: mae Daniel yn 11 oed, loan yn 8 oed ac Aron yn 5 oed, y tri'n gymeriadau bywiog ac yn mwynhau bywyd yn llawn. Maen nhwn ffodus o'u mam - angor yn eu bywyd pan mae eu tad yn pwyllgora, yn lobïo yn Llundain a Chaerdydd.

Mae'r bechgyn wedi mwynhau symud i fyw i'r Coleg; cant brofiadau amheuthun o gwrdd âphobl a chyfle i fod yn rhan o ddiwylliant cwbwl arbennig. Mae'r tri'n wahanol i'w gilydd ac eto bob un ohonynt yn dangos cyfuniad o addfwynder eu mam a styfnigrwydd eu tad!

Pryd ddaethoch chi i Gaerfyrddin?
Daethom yma ym 1989. Unwaith y bum yma cyn hynny yn Eisteddfod Genedlaethol 1974. Daeth Fiona a minnau o Wrecsam yng nghanol eira Ionawr. Gwnaeth y ddau ohonom ddisgyn mewn cariad âCholeg y Drindod ac roedden yn awyddus i ddod i fyw i'r dref.

Rhoddais fy mryd ar wneud gyrfa yn y Coleg. Mae gennyf feddwl mawr o Goleg y Drindod. Ar brydiau mae'n obsesiwn, a'r Coleg wedi cymryd fy mywyd drosodd. Arwydd o wendid yn fy mhersonoliaeth i. Rydym wedi mwynhau byw yn y dref. Man gwych i fagu teulu.

Ydy'r Coleg wedi newid ers pan ddaethoch chi yno?
Mae dros ddeuddeg mlynedd ers pan ddois i i'r Drindod a bu'n gyfnod o newid sylweddol. Mae'r pwysau gwleidyddol wedi cynyddu. Pan ddois yn Brifathro ddwy flynedd yn ôl, roedd dyfodol y Drindod yn y fantol a bu rhaid gwneud newidiadau radical i'w ddiogelu.

Nid oeddynt yn boblogaidd gan bawb. Y wers gyntaf a ddysgais oedd nad oes modd plesio pawb, (mewn swydd gyhoeddus) a bod dyn yn creu gelynion. Mae niferoedd y myfyrwyr wedi cynyddu'n fawr - 30% o gynnydd y llynedd ac eleni y mwyaf yng Nghymru - 58%.

Daeth y Coleg hefyd yn ganolfan cymuned. Mae ei dyfodol bellach yn ddiogel, a hynny yn bennaf oherwydd cyfraniad gweithgar staff ymroddedig y Coleg. Mae'n braf wrth fynd i gyfarfodydd yn y Cynulliad i glywed gweinidogion yn cydnabod bod newid wedi digwydd yng Ngholeg y Drindod a hynny wedi sicrhau ei ddyfodol. Mae cyfleoedd diddorol o'n blaen.

Beth yw eich diddordebau personol chi?
Prin yw'r amser rhydd sydd gennyf. Os oes cyfle byddaf yn ceisio sicrhau fy mod gyda'r teulu. Mae gennyf ddiddordeb mewn cerddoriaeth ac mewn darllen yn arbennig llyfrau athroniaeth a diwinyddiaeth.

Byddaf hefyd yn mwynhau dianc - i gerdded. Fy mreuddwyd fyddai cael cartref ar Ian y môr, lle gellid agor drws y ty a chael cerdded ar y traeth. Ar brydiau awchaf am ddianc o ganol gwleidydda Pwyllgora Coleg neu Gynulliad - jyst cerdded am filltiroedd a chael llonydd i fod yn fi fy hun.

Mae Prifathro bob amser yn gorfod gwisgo masg a chadw pellter. Dyna'r rhan anodd a dyna pam fod swydd gyhoeddus yn gallu bod ar brydiau yn wirioneddol unig.

Beth yw eich barn am dre Caerfyrddin a'r ardal?
Dyma dref ag iddi botensial aruthrol. Mae cyfle gwych yma i ddatblygu canolfan gelfyddydol arbennig. Mae bwrlwm a chymdeithasau'r dref yn rhywbeth i fod yn falch ohonynt.

Fe fydda i weithiau yn meddwl nad ydym yn gwneud digon o'r cyfleoedd sydd yma. Gwn fod eraill wedi nodi hynny a bod angen gwell cyfleusterau i ieuenctid a diwylliant.

Fel cyn-gadeirydd panel golygyddol Cwlwm, oes gennych chi awgrymiadau i'r dyfodol?
Fe wnes i fwynhau y cyfle o fod yn rhan o dim golygyddol Cwlwm er mod i'n ymwybodol nad oeddwn yn gallu rhoddi fy ngorau oherwydd pwysau gwaith. Dyma un o'r papurau bro gorau yng Nghymru.

Mae'r amrywiaeth sydd ynddo yn dda a chynrychiola ardal gyfan. Mae Gwyl Ddrama Cwlwm yn llwyddiant mawr. Profiad amheuthun yw gweld Neuadd San Pedr yn orlawn a chynrychiolwyr o Fro Myrddin yn dod ynghyd i fwynhau diwylliant Cymraeg. Mae angen llawer mwy o'r math yna o weithgareddau.

Pwy ydych chi'n ei enwebu ar gyfer rhifyn Ionawr?
Brian Walters, Clunmelyn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý