Does dim eisiau i mi ddweud wrth neb o ddarllenwyr Cwlwm fod ffynhonnau newyddion da o lawenydd mawr yn lleihau o ddydd i ddydd.
Does dim eisiau i mi ddweud chwaith wrth neb sydd dros ei bedwardegau fod y ffordd o ddathlu'r newyddion da wedi newid yn enfawr. Yng nghyfnod yr Adfent, fe'n harweinir ni i gerdded yn addfwyn a diffuant ar lwybrau'r disgwyliadau. Y mae disgwyliadau pob cenhedlaeth yn wahanol. Diolch am rywrai ymhob cenhedlaeth sydd wedi tywys eu plant a'u dysgu i ddisgwyl.
Fel arwydd o henaint, cofiaf yn dda iawn am fy nisgwyliadau i am y Nadolig, ac y mae ein ddoe a'n hechdoe ni, y rhai hyn, yn gyfoeth amhrisiadwy, nad yw hyd yn oed berw masnach a ffug y cyfnod presennol yn llwyddo i amharu dim arno. Cofiaf yn dda iawn am fy nisgwyliadau mawr am anrhegion bychain, o'r fath newid - oherwydd bychain iawn yw'r disgwyliadau bellach am anrhegion drud a mawr.
Mewn cyfnod modern pan mae newyddion drwg yn cyrraedd ein cartrefi bedair awr ar hugain y dydd, dyna fraint braf yw cael cyhoeddi ar drothwy'r Nadolig 'y newyddion da o lawenydd mawr, : Mae'r newyddion da hyn yng nghanol anrhefn a chasineb a chysgod rhyfeloedd, ynghyd a diffyg dealltwriaeth ein dyddiau ni - fel chwa o awyr iach, a'i llawenydd wastad yn iachusol. Mae'r Å´yl wrth gwrs yn cyhoeddi'r llawenydd sydd yn yr Efengyl i gyd.
Daeth Gwaredwr gwiw i ddynion
O newydd da
Sych dy ddagrau, gaethferch Seion
O, newydd da.
Yn weledol mewn cyfnod materol ac i raddau yn ddi-gred, does dim prinder goleuadau o gwbl a rheini yn cuddio adeiladau cyfan, ac yn gwbl ddi-chwaeth heb neges nag ystyr y Nadolig. Mae'r Nadolig wedi goleuo calonnau, ac wedi cynnau brwdfrydedd tystion ar hyd yr oesau, wedi gwneud pobl ofnus yn eofn, y gwan yn gryf a'r balch yn ostyngedig - rhywbeth na all y grid cenedlaethol byth lwyddo i'w gyflawni.
Diolch am y golau sy'n cael ei adlewyrchu ym mywydau y rhai sy'n credu gred ac sy'n dilyn yr Hwn dystiodd Ei fod yn Oleuni'r Byd. Mae Nadolig hefyd yn Ŵyl y gobaith. Teilwng iawn cofio yn ôl hen hanes, mai mewn lle llwm a thlawd, i deulu nad oedd lle nag amser iddynt ym merw dinas, yr agorwyd drws y gobaith newydd i ddynolryw ac y mae'r gobaith yn obaith parhaol - heb ynddi ddiffyg byth yn bod.
Un o ddarluniau tristaf yn hanes dyn, yw honno pan ddygir pob gobaith oddi wrtho sef colli gwaith neu mewn carchar, neu mewn ystafell fechan mewn ysbyty. Ar y munudau dwys hyn - dyna air pwysig yw gobaith a'r un sy'n awyddus i sôn am obaith mewn sefyllfa sydd ar yr wyneb yn edrych yn hollol anobeithiol. Diolch am Ŵyl y Gobaith.
Mae'r Nadolig hefyd yn Å´yl y gorfoledd. Yn ein holl drueni mae'r Nadolig yn ein gwneud ni yn fwy na choncwerwyr am i Dduw sibrwd i glyw gwerin ym Methlehem Jwda am yr Hwn a anwyd yn Frenin ac yn frawd i bob un.
Fy ngweddi y Nadolig hwn, yw ar i'r gwir oleuni roi gobaith newydd i'n byd ac i r gobaith hwnnw dorri allan yn orfoledd pur a'r cyfan i wneud i holl genhedloedd y byd greu byd tangnefeddus.
Pleser yw cael dymuno i gyd-ddyn Nadolig bendithiol a gweddïo ar i Dduw 'Ddiwel Ei Wlith ar Walia wen'
Emyr Lyn