91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwlwm
Mr Gerwyn Griffiths Portread o Mr Gerwyn Griffiths,
Chwefror 2004
Portread o Mr Gerwyn Griffiths,o Langynnwr, Caerfyrddin yng ngholofn fisol 'Portread y Mis' papur bro Cwlwm ...
Beth am y dyddiau cynnar?
Gweld golau dydd gyntaf yn Tegfan, Ffynnonddrain yn un o chwech o blant - Dilys, Katie a Betty ac Elfed, Tal a llysfrawd Jac. Bu farw fy chwaer Betty yn ifanc iawn, a lladdwyd Elfed yn yr Ail Ryfel Byd. Yr oedd ef fel fy nhad yn saer coed. Wedi crwydro'r byd a gwasanaethu ar y llongau yn ystod y rhyfel, fe fu Tal yn athro yn Canada, ond erbyn hyn y mae yn ôl yn byw yng Nghaerfyrddin.

Un o Feidrim oedd fy nhad, a bu yn Capetown, De Affrica am ugain mlynedd. Pan bu farw ei wraig gyntaf daeth yn ôl yma gyda Jac y mab. Yr oedd mam yn ferch i fferm fach yn Abernant.

Yr oedd Ffynnonddrain yn bentref bach cyfeillgar ac yn lle diogel i fyw ynddo a phawb yn ffrindiau. Yr oedd siop fach Miss Davies yn dynfa i blant y pentref yn ystod fy machgendod. Ond canolbwynt y pentref oedd Capel Elim, ac yno yn y festri daethom o dan ddylanwad y Parchg. Glyndwr Richards a'i briod. Dysgais lawer yn yr Ysgol Sul. Cofio am y Band of Hope a'r dramâu a'r cyngherddau ac wrth gwrs y Magic Lantern.

Beth am ddyddiau ysgol?
Derbyniais fy addysg Gynradd yn Ysgol y Model yn y dre ar ddechrau'r tri degau. Yr oedd hyn flynyddoedd cyn i blant gael y cyfle i fynd i ysgol Gymraeg yn y dre. Mynd wedyn i Ysgol Ramadeg y Bechgyn. Crwt bach o Gymro a dim llawer o Saesneg yn cymysgu â phlant y dre. Fe gofia i un tro, Peter, Bryn, Mefus a minnau yn ffurfio math o gerddorfa gan chwarae gitâr ac accordion a minnau mae'n siŵr ar y piano, a chael hwyl arni yn chwarae '91Èȱ¬ on the Range' mewn cyngerdd Gŵyl Ddewi!

Ond er mai Saesneg oedd iaith rhan fwyaf o'r athrawon yno, ar y Sul, Cymraeg oedd iaith Capel Elim, ac yr oedd yn fodd i mi elwa llawer ar yr awyrgylch yno. Mae rhai yn cofio Adar Elim, grŵp o gantorion a oedd yn diddanu yn y fro. Yn Elim yr organyddes oedd Beryl, Parc Glas, a ganddi hi y cefais wersi piano. A dyna bron iawn ddechrau fy niddordeb mewn cerddoriaeth, diddordeb sydd wedi bod yn rhan bwysig o'm mywyd i.

Ar ôl dyddiau ysgol, be wedyn?
Doedd yna ddim swydd yn arbennig wedi apelio ata i, ond mi ges swydd fel 'draughtsman' yn y Wag Ar, fel yr oedd hi pryd hynny. Wedi cyfnod yn y Coleg Technegol rhaid oedd treulio cyfnod yn y fyddin wedi'r rhyfel.

Fe'ch denwyd chi wedyn i'r ddinas fawr ...
Do, symud i weithio eto fel 'draughtsman' i Gyngor Sir Morgannwg, gweithio yng Nghaerdydd a byw yng Nghilfynydd. Roeddwn i wedi priodi â Menna, merch o Trawsmawr, erbyn hynny. Yno y ganwyd ein merch Delyth sydd erbyn heddiw yn hyfforddi athrawon ail iaith yn Neyland. Ar y pryd yr oedd Jac yn ficer yng Nghilfynydd ac fe fu'r pedair blynedd yno yn rhai hapus iawn.

Ond yr oedd yr hen sir yn denu ...
Oedd, ond ddaethon ni ddim nôl yn syth i Sir Gâr. Cael swydd yn Hwlffordd, Sir Benfro ac ymhen amser, pan newidiwyd llywodraeth leol yn 1974, nôl i Gaerfyrddin gan wasanaethu'r fwrdeisdref ac yna'r Sir fel syrfeywr cyn gorffen yn y fwrdeisdref. Yn ystod y cyfnodhwnnw treulio blwyddyn a hanner ym Mhencader a throi ymhlith pobl wledig a phrofi beth oedd cael eira ar y topiau. Pan ddaeth cyfnod ymddeol, setlo fan hyn yn Llangynnwr, er inni fyw mewn llawer man o gwmpas Caerfyrddin. Rhwng y cwbl falle i ni fyw mewn deg t&#375ŵ.

Ond cerddoriaeth yw'r diddordeb pennaf?
0, ie. Roedd y garej a gweithdy nhad o dan yr un to a gydag amser bydde nifer ohonom ni ieuenctid yn ffurfio band a byddai ieuenctid y fro yn dod yno i ddawnsio i'n cyfeiliant ni.Rwyf wedi sôn am Beryl a'r cyfle i gael gwersi piano. Gŵr a fu'n gefn i mi ac a ddysgodd i mi chwarae'r organ bib oedd prifathro'r Model, Charles Wilford. Roedd e'n organydd Eglwys Crist yn y dre.

Wrth i mi sôn am yr organ tybed faint sydd yn cofio'r organydd Sandy MacPherson a'i raglen radio 'Chapel in the Valley', a ddarlledwyd ar y radio yn ystod y rhyfel. Mae'n debyg iddo gael y teitl i'w raglen pan ddaeth i Gaerfyrddin un tro. Arhosodd yr ochr ucha' i Drefechan gerllaw Castell Hywel a gweld Capel Elim ar waelod y dyffryn a phentre Ffynnonddrain gerllaw.

Rydych chi wedi perthyn i nifer o bartïon ...
Ydw, ac wedi mwynhau pob munud. Efallai mai'r cyntaf oedd Parti'r Bernan Serenaders adeg y rhyfel pan fydde' ni'n mynd o amgylch yn cynnal cyngherddau. Dyna pryd y cwrddais â Menna a phriodi yn 1952. Roeddwn i'n hoff iawn o greu cerddoriaeth a chyfansoddi penillion ar gyfer aelodau'r partïon. Creu caneuon i Adar y Nant fel Y Spwtnic a Lilly May nôl yn y chwedegau.

Dyna'r adeg yr oedd yn rhaid cyfansoddi cân newydd bob wythnos wrth i'r Adar ddarlledu'n fyw ar deledu'r 91Èȱ¬ yn gyson am saith wythnos. Buon ni wrthi, y ddau Dewi, Arwyn a fi, a chael cwmni Phil, Hermon, yn diddanu cymdeithasau yn y de orllewin a gogledd Cymru.

Yr oeddwn i gyda'r cyntaf i helpu Sulwyn yn nyddiau cynnar Radio Glangwili, a chael pleser yn helpu gyda'r sain mewn cyngherddau a gweithio gyda chwmnïoedd drama fel Cwmni Dan y Wenallt, T James Jones. Creu tâp agoriadol i ffair y blaid am chwarter canrif.

Un o mhleserau mawr i oedd chwarae'r organ. Diddanu pobol a chyfeilio yn y cysegr. Mwynheais i'r cyfnod o fod yn organydd Capel Cendy, Abernant, yn fawr iawn. Y mae'r ffaith bod y Gymanfa Bwnc yn dal i gael ei chynnal rhwng capeli Bwlch Newydd, Capel Cendy ac Elim yn rhoi boddhad mawr i mi. Hefyd mynd i helpu yng ngwasanaeth y Plygain yng Nghapel Heol Awst yn y dre, heb anghofio'r epilog ar Radio Glangwili. Erbyn hyn y mae'r ddau ŵyr yn mynd â mryd i. Siôn, a raddiodd y llynedd ac sy' nawr yn gwneud cwrs ymarfer dysgu yng Ngholeg y Drindod a Stephan a enillodd gystadleuaeth Can i Gymru yn 1999 gyda'r gân Torri'n Rhydd.

Enwebu
Mr. Dave Thomas, Parc y Delyn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý