Cofiaf holi Norah un tro pam y dewisodd 'Llwybrau' yn enw ar ei chartref, enw anarferol, a dweud y lleiaf, ar dy. Atebodd fod ganddi ddau reswm. Yn gyntaf, am ei bod yn awyddus i'r enw ddechrau â llythyren nad yw'n digwydd yn yr iaith Saesneg, fel na byddai gan neb (gan gynnwys y postmon) unrhyw amheuaeth mai Cymry Cymraeg oedd yn trigo yno. A'r ail reswm oedd y ffaith ei bod yn gweld ei bywyd yn nhermau pererindod yn ymestyn allan ar hyd nifer o lwybrau gwahanol. Dyma a welir yng ngardd flaen y ty: nifer o lwybrau, a rheiny'n mynd i sawl cyfeiriad. Os mai bwriad Norah oedd cynllunio'r ardd i fod yn ddarlun o'i bywyd, yna, yn sicr, fe lwyddodd yn ei hamcan, oherwydd fe droediodd ar hyd nifer o lwybrau tra phwysig yng Nghymru, a gadael ôl ei throed yn drwm ar bob un ohonynt - llwybr addysg a diwylliant; llwybr ysgol a choleg; llwybr Urdd Gobaith Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol; llwybr y ddrama a'r cyfryngau; llwybr crefydd a chapel.
Yr hyn sy'n arwyddocaol am y Llwybrau yn yr ardd yw eu bod i gyd yn dechrau o un man canolog, man lle y saif carreg fawr, nid annhebyg i un o feini'r orsedd.
Os mai niferus ac amrywiol oedd diddordebau a gweithgareddau Norah, y tu ôl i'r cyfan yr oedd un bersonoliaeth fawr, fyrlymus, ddeinamig.
Heddiw yr ydym yn ymgynnull ynghyd i fawrhau'r bersonoliaeth honno, ac i ddiolch i Dduw amdani.Fe'n gorfodir mewn gwasanaeth fel hwn i brynu'r amser. Wrth grynhoi ein sylwadau, nodwn dair nodwedd oedd yn amlwg ym mhersonoliaeth ac ym mywyd Norah:
1. Ei DAWN
Meddai ar ddawn gwbl eithriadol i gyfathrebu, i drosglwyddo gwybodaeth, ac i rannu gweledigaeth ac argyhoeddiad. Ble bynnag y gwelid hi - ar lwyfan; mewn ystafell ddarlithio; o flaen camera; ar ei haelwyd ei hunan - roedd yn gyfathrebwraig ddihafal, yn un a ddaliai sylw ei chynulleidfa ar unwaith, ac a lwyddai i gynnal y diddordeb hwnnw hyd y diwedd. Fe gyfoethogwyd y ddawn hon (ac fe gofiwn mai rhodd yw ystyr wreiddiol y gair dawn), gan dair elfen gwbl anhepgor:
(i) Gallu.
Gallu i ddadansoddi, i feirniadu ac i werthfawrogi. A gallu rhyfeddol i gofio. A gyfarfuom erioed â rhywun â chof mor eithriadol o finiog a chynhwysfawr â Norah? Gwyddoniadur o gof! Cofio ffeithiau, enwau, sefyllfaoedd, digwyddiadau, hanesion. Roedd teithio gyda hi yn y car yn troi ar unwaith yn wers hanes, a honno'n llawn cyfeiriadau bywgraffiadol, diddorol at enwogion y fro.
(ii) Gwybodaeth.
Roedd ganddi wybodaeth gyffredinol eang, ynghyd â gwybodaeth neilltuol am briod feysydd ei hastudiaeth. A gwybodaeth arbennig am eu harwyr, gwroniaid megis William Williams, Pantycelyn; Gruffydd Jones, Llanddowror; Twm o'r Nant; Ifan ab Owen Edwards; T Gwynn Jones; Saunders Lewis; Gwynfor Evans, heb anghofio, wrth gwrs, am y seren a ddeuai ar frig ei rhestr, yn amlach na pheidio, sef Iolo Morgannwg.
(iii) Angerdd.
Os bu farw Mari Tudur a 'Calais' wedi ei gerfio at ei chalon, yn sicr bu farw Norah a'r gair 'Cymru' wedi ei naddu mewn llythrennau breision at ei mynwes. Llosgai gariad at Gymru - ei hiaith, ei diwylliant a'i thraddodiadau gorau - fel tân eirias o'i mewn. Cymru oedd ei chenhadaeth. Ac ni all neb fod yn genhadwr heb i'r achos mawr a gynrychiola fod yn bopeth iddo.
Y nodweddion hyn a'i gwnaeth yn athrawes ac yn ddarlithwraig mor effeithiol. Y mae gennyf yn fy llaw gopi o 'Rhaglen Ysgol Gymraeg Aberystwyth' a sefydlwyd ym mis Medi 1939, a Norah wrth y llyw. Fel hyn y cyfeirir ati yn y llyfryn:
"Y mae Miss Isaac yn athrawes drwyddedig wedi ei hyfforddi yng Ngholeg y Barri. Yno derbyniodd dystysgrif y Bwrdd Addysg - gyda chlod. Ni fyddem yn disgwyl iddi ennill dim llai na'r clod uchaf, nac i'r sefydliad a'i hyfforddodd roi iddi ond yr hyn a haeddai."
Ac wele sylwadau pennaeth Coleg y Barri ar y pryd, sef y Brifathrawes Ellen Evans, ar yr hyn y bu'n dyst iddo yn Aberystwyth:
"Dyma o'r diwedd freuddwyd yn ffaith - plant Cymru yn cael addysg mewn awyrgylch drwyadl Gymreig yng ngofal athrawes o ddawn eithriadol. Bum yn gweld yr ysgol droeon, a phob tro llonwyd fy ysbryd wrth weld llwyddiant digymysg y gwaith.
2.Ei DYLANWAD
Yn anochel yr oedd dawn gyn ddisgleiried yn sicr o effeithio'n drwm ac yn barhaol ar eraill. Fe lwyddodd Norah mewn modd unigryw i ysbrydoli'r plant a ymddiriedwyd i'w gofal, ac i ysgogi'r cenedlaethau o fyfyrwyr a fu'n ddisgyblion iddi yng Ngholeg y Barri a Choleg y Drindod, Caerfyrddin. Magodd do ar ôl to o fyfyrwyr i fod, yn eu tro, yn athrawon medrus, a hwythau'n diolch am y cyfle a gawsant i fod wrth draed meistr.
Wrth gwrs, fel y gellid disgwyl, fe allai'r profiad hwnnw, weithiau, fod yn un poenus - ac ar adegau yn un dirdynnol! Pa sawl myfyriwr - fel eraill ohonom a fu â rhan yn rhai o basiantau Norah - a fu drwy'r felin o dan ei goruchwyliaeth, ond sy'n diolch heddiw am y ddisgyblaeth lem a'r gair o gerydd! Ni allai Norah gyfaddawdu ynghylch safon a gwerth. Ym mhob dim yr ymgymerai Norah ag ef, mynnai roi o'i gorau, a disgwyliai i eraill ymroi yr un modd.
Cafodd Norah berswâd arnaf (nid oedd gwrthod i fod!) i chwarae rhan yr Esgob William Morgan yn 'Y Gair a Gaed', sef y cyflwyniad a luniwyd ganddi i ddathlu Pedwar Canmlwyddiant y Beibl Cymraeg ym 1988. Roedd hynny'n brofiad i'w gofio, a minnau'n ymhwedd arni yn yr ymarferion olaf i drugarhau wrth William Morgan ac i adael iddo farw yn ei amser, gan ei bod yn ychwanegu'n ddiddiwedd at ei araith olaf i'w gyd-Gymru. (Cai Norah anhawster mawr i ollwng gafael ar eu harwyr wrth eu portreadu ar lwyfan!)
Y Pasg canlynol dyma fynd ar bererindod i Israel, a chael cwmni dau weinidog arall ar y daith, sef y Parchg. Cynwil Williams a'r Parch. Howell Evans - a fu'n chwarae rhan William Morgan pan lwyfanwyd y pasiant yn Llanddarog. Dyma gyrraedd Beth-shan, y lle strategol bwysig hwnnw rhwng Jesreel a dyffryn yr Iorddonen, y lle mae'r amffitheatr Rhufeinig yn dal i sefyll. Dyma Norah yn rhoi gorchymyn i Howell a minnau i gyflwyno perorasiwn William Morgan ar y llwyfan yn y fan a'r lle. Er gwneud popeth yn ein gallu i'w pherswadio o ffolineb y fenter (oherwydd byddai'r ddau ohonom yn dibynnu ar ein cof, ac yn sicr o faglu dros y geiriau), nid oedd dim yn tycio. Bu'n rhaid ufuddhau. Sylw Norah ar ddiwedd y perfformiad oedd: Dyna ni, pa weinidogion eraill yng Nghymru all ddweud iddynt lefaru geiriau enwog yr Esgob William Morgan ar lwyfan yr amffitheatr yn Beth-shan?' Gwir a ddywedodd.
Gwelwyd addysg - o ran dulliau, sgiliau, a moddion cyflwyno gwybodaeth - yn newid yn chwyldroadol yn ystod y degawdau diwethaf hyn. Meddai un athrawes wrthyf yn ddiweddar: "Roedd Norah yn ein trwytho yn y dulliau newydd hyn hanner can mlynedd yn ôl yn y Barri." Dyna fesur ei medrusrwydd, a'i dylanwad.
3. Ei DEWRDER
Yr hyn sy'n rhyfeddol (yn wyrthiol, yn wir) yw iddi gyflawni gorchestion o'r fath o dan anfanteision mor enbyd - anfanteision a fyddai wedi llorio rhai o'r cryfaf yn ein plith, a pheri iddynt wangalonni ac ildio'r dydd. Ond nid Norah. Er iddi, oddi ar ddyddiau plentyndod, ddioddef poen a llesgedd corff, ymwrolodd yn rhyfeddol, a magu ewyllys gref, a dycnwch a dyfalbarhad na allai neb â'i hadnabu ond ei hedmygu amdanynt. Cofiaf Lyn (Y Parchg. Lyn Rees) yn cyfeirio ati un tro yn nhermau bwndel o boen. A dyna ydoedd -yn gorfforol.
Drwy'r cwbl gwrthodai ymollwng, hyd nes i'r salwch olaf ei goddiweddyd. Yn anochel, rywsut, wrth inni goffau Norah, daw cwpled agoriadol cerdd deyrnged Gerallt Lloyd Owen i Saunders Lewis i'r meddwl:
Nid eiddil pob eiddilwch,tra dyn, nid llychyn pob llwch.
Ac yna, yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn daeth nifer o golledion chwerw (rhai ohonynt yn gwbl, gwbl annisgwyl megis bollt o'r glas) i roi prawf pellach ar ei nerth.
Beth a'i cynhaliodd? Yn ddi-os yr oedd Norah'n gymeriad cadarn, cryf, yn meddu ar benderfyniad di-ildio. Ond dyw hynny ynddo'i hunan ddim yn esboniad digonol.
Fel ei gweinidog gallaf dystio i'w ffydd ddiysgog, a chyhoeddi mai'r ffydd honno oedd ei chraig a'i hangor. Hefyd yn fy llaw y funud hon y mae copi o Credaf (Llyfr o Dystiolaeth Gristnogol) a gyhoeddwyd gan Wasg Gee ym Medi 1943 (sylwer ar y dyddiad), o dan olygyddiaeth y Parchg. J.E. Meredith, Aberystwyth. Ymhlith y cyfranwyr y mae Norah, a'i datganiad hithau'n adlewyrchu ei argyhoeddiad Cristnogol dwfn, ynghyd â'i heddychiaeth gref. Dyfynnaf air neu ddau o gyffes Norah:
"...dyma fi'n mentro rhoi gair ar bapur am imi gredu o cheir ynof rinwedd' mai i'r Ffydd Gristionogol y byddaf yn ddyledus amdani ... dilyn Crist a'i gyfarwyddyd yw uchelgais mwyaf bywyd. Credaf hyn yng ngwanwyn 1943 gyda mwy o argyhoeddiad nag erioed." Ei ffydd a'i gwnaeth yr hyn ydoedd. Ei ffydd a fu'n gynhysgaeth iddi yn y dydd blin.Bu dylanwadau bore oes - dylanwad mam a thad a theulu ar aelwyd grefyddol; dylanwad yr aelwyd ysbrydol yn Noddfa, Caerau (a gweinidogaeth y Parchg. Peregrine Davies) - yn rhai arhosol. Gwelais innau'r dylanwadau hyn yn dod i'r amlwg yn ei ffyddlondeb a'i chefnogaeth i eglwys y Tabernacl, Caerfyrddin, a'i gwerthfawrogiad o weinidogaeth y Gair; ac yn ei dewrder rhyfeddol yn wyneb cystudd a phoen. Fel Paul, gynt, fe allai Norah dystio: Canys pan wyf wan, yna'r wyf gryf' (2 Co r. 12:10).
Buom yn sôn ar y dechrau am 'lwybrau' pererindod Norah. Erbyn hyn fe gerddodd ar hyd un llwybr arall, a chroesi draw i'r byd sydd uwchlaw cymylau amser, byd heb fod ynddo na gwae na dioddefaint. Cafodd Ioan y Difinydd gip ar y byd hwnnw, an sicrhau yn ei weledigaeth ysblennydd ei fod yn fyd heb marwolaeth, na galar, na llefain, na phoen. A Phantycelyn yr un modd:
Byw heb fachlud haul un amser,
Byw heb gwmwl, byw heb boen,
Byw ar gariad anorchfygol
Pur y croeshoeliedig Oen.
Yr ym yn cofio Norah â diolch a gwerthfawrogiad yn ein calon. Cofiaf iddi ddweud un tro: Nid ffeithiau sy'n cyfoethogi bywyd, ond profiadau a theimladau. Fe gyfoethogodd hithau brofiad pob un ohonom, a mawr yw ein dyled iddi. Buasai bywyd pob un ohonom gymaint yn dlotach pe baem heb ei hadnabod.
Teyrnged Y Parchedig Desmond Davies i Norah Isaac