Bu'n un o'r cyfarfodydd mwyaf arbennig a gynhaliwyd erioed yng Nghaerfyrddin ac yng ngeiriau pawb a gafodd y fraint o fod yn bresennol - "fe fyddai Norah wedi bod wrth ei bodd pe bai hi yno." Agorwyd y gweithgareddau gan y Parchedig Desmond Davies, Gweinidog Y Tabernacl Caerfyrddin, ac fe ganwyd emyn mawr John Gwilym Jones 'Fe chwythodd yr awel at Gymru drachefn', ac i ddilyn fe welwyd llwyfan llawn o blant a phobl ifainc Aelwyd Ffynnon-ddrain ac Aelwyd Myrddin. Canodd Andrew Rees y gân hyfryd 'Bugeilio'r Gwenith Gwyn' a Rhian Williams Gywydd T Gwynn Jones i Norah. Cafwyd cyflwyniadau hefyd gan Mari Emlyn, Mererid Hopwood a Tudur Dylan. Yna daeth Cefin Roberts a'i ddisgyblion o Ysgol Glanaethwy i'r llwyfan gan gyflwyno hanner awr wefreiddiol wedi ei phlethu gan ddawnsio byrlymus Dawnswyr Nantgarw yng ngofal Cliff Jones ac Eirlys Britton ynghyd ag aelodau Lleisiau Llên y cwmni a sefydlodd Norah yng Ngholeg y Drindod. Ar ôl i'r Prchedig Lyn Rees, Rhydaman gyflwyno emyn Gwyl Ddewi Norah a'r gynulleidfa yn ei chanu cafwyd cyflwyniad llafar gan Carys Davies, Enillydd Gwobr Llwyd o'r Bryn 1995 a theyrngedau disglair a phwrpasol gan Y Parchedig R. Alun Ifans, Llwydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol.
|