Pa drysor rydych chi wedi dewis sôn amdano?
Heb unrhyw amheuaeth, dim ond un peth allaf i ddewis sôn amdano fan hyn. Deng mlynedd yn ôl, ces i drawsblaniad arennau a phancreas. Gwnaeth y llawdriniaeth honno newid fy mywyd yn llwyr, felly'r organau hyn yw fy nhrysor pennaf i.
Mae'n debyg bod gennych chi broblemau gyda'ch iechyd cyn cyfnod y trawsblaniad, felly beth oedd cefndir eich salwch?
Dwi'n dioddef o'r clefyd melys neu 'diabetes' ers fy mod i'n ddeuddeg mlwydd oed. Ac o'r oedran cynnar hynny roedd yn rhaid i fi chwistrellu insiwlin i mewn i'r corff dair gwaith bob dydd. Un o gymhlethdodau'r clefyd melys yw methiant gyda'r arennau. A dweud y gwir, mae ystadegau'n dangos bod 40% o gleifion sy'n gorfod cael pigiad insiwlin yn mynd ymlaen i orfod derbyn dialysis rywbryd yn eu bywydau. Felly roedd 35 mlynedd o chwistrellu insiwlin wedi gadael ei ôl ar fy arennau.
Sut wnaethoch chi ddarganfod bod yna broblem ddifrifol gyda'ch arennau a beth oedd y broses fu'n rhaid mynd drwyddi cyn cael trawsblaniad?
Y cam cyntaf oedd profi bod protein yn y dwr ac am gyfnod, bu'r meddygon yn cadw llygad ar hyn. Wrth fy mod yn agosau at orfod derbyn dialysis, cefais fy rhoi ar ddiet, diet 'strict' iawn. Roedd rhaid gwneud yn siwr nad oeddwn yn bwyta halen na siwgr a dim ond ychydig o fraster. Felly dim chips, dim creision, dim 'single cream' ond yn rhyfedd iawn roedd hawl cael hufen dwbl; roedd hi'n iawn i gymryd rhyw chwarter peint o laeth sgim hefyd. Fe es i ar y ddiet am ddeunaw mis cyn bod rhaid symud ymlaen i'r cam nesaf.
Ym 1994, cefais fynd i'r ysbyty yng Nghaerdydd am dri diwrnod o brofion i weld pa mor gryf oedd y corff a'r organau eraill er mwyn derbyn trawsblaniad. Unwaith roedd y meddygon yn hapus, roedd rhaid mynd i Ysbyty Treforys i gael llawdriniaeth ar gyfer cael math arbennig o ddialysis o'r enw CAPD. Yn syml iawn, gyda'r dialysis CAPD, mae'r claf yn gallu bod adref heb fynd nôl ac ymlaen i'r ysbyty, achos mewn ffordd o siarad, mae'r 'peiriant' dialysis yn cael ei osod o fewn y corff. Wrth gwrs, dyw e ddim yn gweithio cystal â'r arennau ond roedd y dialysis hyd at 80% mor effeithiol. Cyn gynted â'ch bod yn dechrau dialysis rydych yn cael eich rhoi ar y rhestr aros am drawsblaniad. Felly am ychydig dros bedair mlynedd, bues i'n derbyn y dialysis CAPD ac yn aros am arennau newydd.
Beth oedd ymlaen gyda chi ar y diwrnod pwysig, pan ddaeth yr alwad i ddweud bod arennau addas ar gael?
Mae'r profiad o aros am drawsblaniad yn un rhyfedd achos er eich bod yn aros am yr alwad ffôn, dych chi ddim yn credu ei fod yn mynd i gyrraedd. 5ed Awst 1998 oedd y dyddiad. Diwrnod dathlu ugain mlynedd o briodas i Carol a finne fel mae'n digwydd. Roeddwn i wedi cael diwrnod prysur oherwydd er fy mod yn derbyn dialysis, roeddwn i'n berson iach fel arall ac yn gorfforol gryf. Bues i'n concritio seiliau ar gyfer sied y cwn drwy'r dydd ac wedyn am fod y sment wedi bennu, es i gyfarfod gyda'r Clwb Colomennod yn Abertawe gyda'r nos. Roedd hi'n ddeg munud i unarddeg y nos a Carol a finne'n cael dished o de pan ganodd y ffôn. Carol atebodd yr alwad, wedyn pasio'r ffôn i fi, ymhen deng munud roedd ambiwlans wedi dod i'm casglu a bant â fi i Ysbyty'r Heath, Caerdydd.
Faint y'ch chi'n cofio o'r hyn ddigwyddodd wedyn?
Yn gyntaf, roedd rhaid i fi gael 5 awr o brofion gwaed. Ar yr un pryd, roedd Miss Roseanne Lloyd, y 'consultant transplant surgeon' oedd yn arwain y tîm meddygol wedi teithio i Orllewin Lloegr er mwyn casglu'r aren. Unwaith daeth y profion nôl a'r organau yn barod, roeddwn yn cael 'pre-med' cyn y llawdriniaeth. Roedd honno yn para deuddeg awr a hanner. Y peth cyntaf dwi'n ei gofio wedyn yw dihuno yn 'intensive care' a chlywed llais Carol yn dweud bod popeth wedi mynd yn iawn. Fel arfer, mae'n rhaid aros yn yr ysbyty am dri mis wedi derbyn llawdriniaeth o'r fath ond roeddwn i allan o fewn 5 wythnos.
Oeddech chi yn cael gwybod unrhyw beth am y person oedd wedi rhoi'r organnau?
Rwy'n gwybod mai dyn 32 oed oedd e ac roedd yn byw yng Ngorllewin Lloegr. Ar y dydd Sul, roedd wedi mynd allan i loncian pan gafodd ei fwrw lawr gyda char. Roedd yn cario cerdyn 'donor' ond fel mae'n digwydd, doedd e ddim wedi rhoi tic ar gefn y garden i ddweud ei fod yn fodlon rhoi'r pancreas - dim ond yr arennau. Pan aeth Miss Roseanne Lloyd i gasglu'r arennau, roedd hi'n gwybod bod angen pancreas arna i hefyd, felly aeth i siarad gyda'r teulu a gofyn iddynt a fyddent mor garedig â chaniatau iddi gymryd yr arennau a'r pancreas. Wrth lwc, fe wnaethont gytuno a diolch iddynt.
I gloi, sut mae'r trysor arbennig hyn wedi newid eich bywyd chi?
Alla i ddim credu bod bywyd yn gallu bod mor dda gyda iechyd. Ers fy mod i'n blentyn, roeddwn yn dioddef oherwydd problemau'r clefyd melys. Roedd rhywbeth yn bod arna i drwy'r amser. Mae cael y trawsblaniad wedi torri cadwyn yr afiechyd. Does dim clefyd y siwgr arna i o gwbl nawr bod pancreas newydd gyda fi. Wrth gwrs, mae'n rhaid i fi gymryd tabledi am weddill fy oes neu bydd y corff yn ymosod ar yr organau newydd, ond dyw hynny yn ddim o'i gymharu gyda'r gorffennol.