A wnewch chi sôn ychydig am eich cefndir?
Ces fy ngeni wrth droed y Mynydd Du yng Ngwynfe, ond fe symudom fel teulu oddi yno i Dalychychau pan oeddwn yn go ifanc, ac felly, dyna lle rwy'n cofio treulio y rhan fwyaf o'm plentyndod ...
Rwy'n ferch i fferm Glan'rafon Ddu-Isaf, ac mae gennyf ddau frawd, Goronwy a Geraint, sy'n dal i ffermio yn yr ardal. Wedi gadael yr ysgol, penderfynais ddilyn cwrs Gwyddor Ty yng Ngholeg Abertawe , ac yn dilyn hynny, es i weithio i gartref henoed Argel yn NhreIoan i ofalu ar ôl yr henoed a choginio yn ôl y galw.
Ar ôl saith mlynedd, penderfynais newid cyfeiriad, a mynd i weithio yn swyddfa Milfeddygon Merlin yn y dre. Yn ystod y cyfnod hwn, mi briodais â Geraint Jones o Benrhyrber, ac ymhen rhai blynyddoedd, ganed ein hunig fab Rhidian. Yn ystod plentyndod cynnar Rhidian, cefais waith ar benwythnosau yn coginio i blant Cartref y Gelli yn y dre, a dyma lle ces i'r cyfle i werthfawrogi cwmni plant o ddifri. Roedd gweld eu hymateb wrth iddynt dderbyn eu danteithion amser te ar Sadwrn a Sul yn bleser pur.
Wedi i Rhidian dyfu'n annibynnol, dilynais gwrs cyfrifiadurol ym Mhibwrlwyd, a ches swydd yn Ysgol Bro Myrddin lle bm yn gweinyddu gyda gwaith y swyddfa.
Ble a sut y dechreuodd eich diddordeb mewn perfformio.
Wel, wi wedi bod ar lwyfan ers pan on i'n ddim o beth, ac i'r rheini sy'n fy nabod, dyw e ddim yn syndod mae un o'r caneuon cynta' ganes i yn yr ysgol gynradd oedd I'm a little tea pot short and stout'.
Roeddwn yn mynd ir Ysgol Sul yn rheolaidd, ac roedd hynny yn rhoi cyfle da i blant fagu hyder i berfformio, a chan fy mod yn dangos cymaint o ddiddordeb mewn canu ac adrodd, ces bob cyfle gan fy rhieni i deithio a chystadlu mewn eisteddfodau. Wedi cyfnod tawel o'r llwyfan yn fy arddegau, prynais gitâr, a chyn pen dim, roeddwn i a'm hofferyn nôl ynghanol y bwrlwm cystadleuol yn yr Eisteddfodau pop a oedd yn boblogaidd iawn yn y cyfnod. Fy nghlaim to fame' a ges oedd ennill yn erbyn Dewi Pws yn Eisteddfod Bop Castell Newydd. Fe golles ir ddawn wedi hynny wi'n credu.
Rhowch beth o hanes Dwy a Dime.
Yn ystod y saithdege, fe sefydlwyd Hwyrnos Plas Glansevin, a bm yn canu yn rheolaidd yn fan'ny am flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw fe ffurfiwyd y grwp, Aros Mae ar gyfer cystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru, ac fe fuom yn ddigon ffodus o gael mynd i Killarney yn Iwerddon i'r Wyl Ban-Geltaidd i gynrychioli Cymru. Yn 1981 fe benderfynodd tair ohonom o'r Hwyrnos sef Carol, Jean a finne sefydlu'r grwp Dwy a Dime yn arbennig ar gyfer Killarney i ganu fel Grwp Gwerin, ac wedi llwyddiant yn fan'ny, buom yn canu yn rheolaidd mewn cyngherddau a chymdeithasau Cymreig, a chawsom ymddangos ar raglenni megis Taro Tant , Noson Lawen a Heno yn ogystal â rhyddhau LP.
Mewn rhai blynydde, cawsom aelod ychwanegol fel cyfeilydd sef Joy Jones, hynny'n ehangu ein rhaglen yn helaeth, a chawsom bleser mawr yng nghwmni'n gilydd, ac rydym yn dal yn ffrindie agos.
Sut ddaeth y cyfle i ymddangos ar Pobol y Cwm, a sut brofiad ydy bod yn un o drigolion Cwmderi.
Bm yn gweithio fel ecstra ar ffilmiau ers 1982, a chael ambell ddiwrnod ar Pobol y Cwm o dro i dro, ond yng Ngorffennaf 1997, ces gynnig cytundeb chwe mis fel un o bymtheg o drigolion Cwmderi, ac o ganlyniad, rwyf yn dal yno, ac erbyn hyn wedi ymgartrefu yn rhif 19 Heol Llanarthur. Mae'r gwaith yn ddiddorol, ac am fod einhangen yng nghefndir y rhan fwyaf o'r golygfeydd, rydym yn gorfod bod mor ofalus a gwisgo'n gywir ar gyfer pob pennod, a chymaint yn cael ei ffilmio o fewn un diwrnod ac am ein bod yn ffilmio dair wythnos ymlaen llaw, rhaid gwneud yn siwr o wisgo'r thermals' os ar y stryd ym mis Mawrth, a'r darllediad ym mis Ebrill.
Rydych yn weithgar iawn gydag Adran Ffynnonddrain ac yng Nghapel Elim. Pa mor bwysig yw hyn i chi?
Yn hynod o bwysig. Mae gen i lawer o le i ddiolch am gael y cyfle i lwyfannu mewn festri a chapel ac ysgol. Credaf os oes gennych rywbeth i'w gynnig i blant, welgwneud yn fawr ohono. Felly, pan ofynnwyd imi ryw ddeunaw mlynedd yn of i helpu mas da'r canu yn Elim, er mod i'n teimlo braidd yn ddi-hyder ar y pryd, mi dderbyniais y sialens. Pinacl y flwyddyn i'r plant am wn i ydy'r ddrama Nadolig, maent wrth eu bodd yn cyfleu stori'r geni, ac ry'n ni'n cael llawer o hwyl yn enwedig yn Nrama 2000 pan oedd Sulwyn ap Saul yn holi'r bugeiliaid ar ran Telewê Bethlem. Wrth styried y diddordeb oedd gan blant yr Ysgol Sul, sefydlwyd Adran o'r Urdd yn Ffynnonddrain. Wyth aelod oedd yn mynychu'r Adran pan gychwynnwyd ryw ddeng mlynedd yn ôl, ond buan aeth y lle'n rhy fach, felly, ers rhyw bedair blynedd bellach, drwy garedigrwydd Dr Medwin Hughes, Prifathro Coleg y Drindod, rydym wedi newid i leoliad mwy addas yn y coleg i gynnal ein gweithgareddau.
Mae na bedwar deg o aelodau yno, ac mae gennym dîm da o gynorthwywyr i gynnal yr Adran yn wythnosol. Eleni, bydd yna Gân Actol, Parti Unsain, Côr a Grwp Llefaru yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd ym Margam. Dymuniadau gorau iddynt.
Pryd ddechreuoch chi gyfansoddi caneuon a dramodigau?
Wel mae hyn yn mynd â fi nôl flynydde. Pan ddechreuais gymryd diddordeb yn y sîn bop, roedd angen caneuon ffres i'w canu yng nghystadlaethau canu ysgafn, felly rhaid oedd mynd ati i ysgrifennu. Bum yn ffodus iawn i ennill y wobr gyntaf yn y gân ysgafn fodern wreiddiol yn Eisteddfod Genedlaethol Môn 1984, ac wedi llwyfannu droeon gyda'r gân werin a cherdd dant. Lle mae'r dramâu yn y cwestiwn, roedd bwlch mawr yn y farchnad mewn dramâu modern i blant a phobl ifainc ar gyfer y Nadolig, felly rhaid oedd ceisio llenwi'r bwlch gorau bosib, ac erbyn hyn, mae ryw bum drama Nadolig mewn llaw.
Rwyf hefyd yn aelod o Gwmni Drama Ffynnonddrain sy'n perfformio bob blwyddyn yng Ngwyl Ddramâu Cwlwm, ac mae hynny wedi fy ysgogi i addasu dwy neu dair o ddramâu, ond y bwriad yw paratoi un wreiddiol ar gyfer y flwyddyn nesa, felly, watch this space'.
Pa ddiddordebau eraill sy'n llanw'ch bywyd?
Pan fydd amser yn caniatau, rwy'n hoffi darllen, coginio, cerdded, gwrando ar fiwsig, a rhyw botsian ar y cyfrifiadur. Hyd at ryw chwe mis yn ôl, roeddwn yn canu gyda Chôr Meinir Lloyd sef Côr Telynau Tywi, ond gan nad oedd amser yn caniatau, gorfu imi roi'r gore iddi.Ers tua blwyddyn bellach rwyf wedi dechrau creu cardiau cyfarch personol, ac rwy'n treulio cryn amser yn chwilio am syniadau newydd, a chyfansoddi cerddi ar eu cyfer.
Pwy yw'ch arwr/arwres chi?
Heb amheuaeth, Y Bonheddwr Gwynfor Evans. Mae gen i barch mawr iddo fel person ers yn ifanc, ac fe wnaeth gymaint dros ein hiaith a'n sianel, gwr dewr ac un a fu ac sy'n dal i fod yn deyrngar dros ei wlad. Fe allwn ddweud mod i'n edmygu llawer i gerddor ac actor, ac un o'r rheini yw Carl Jenkins a greodd y fath weithiau cerddorol gyda'i harmoniau clyfar.
Clywyd llawer o'i ganeuon yng Nghystadleuaeth Gorawl Cymru yn ddiweddar. 0 ie, yn sgîl hynny, ga'i ychwanegu Islwyn Evans at y rhestr? arweinydd y côr buddugol sef Côr Ysgol Gerdd Ceredigion. Cerddor mor ddawnus, sy'n sicr wedi plannu hadau cerddorion ein dyfodol.
Ydych chi'n hoffi cael eich galw'n Bet Fach?
Mae'n ddiddorol eich bod wedi gofyn y cwestiwn yma, oherwydd pan o'n i adre yn Nhalyllychau, Beti oedd pawb yn fy ngalw, ond wedi imi ddod i Gaerfyrddin, yn rhyfedd iawn, Bet neu Bet fach wyf i bawb, a pham lai? Dw'i ddim yn credu fod lot o obaith i fi dyfu mwyach, ac i ateb eich cwestiwn, ydw, am wn i, mae na rywbeth ddigon gyfeillgar yn yr enw.
Pwy ydych chi'n ei enwebu ar gyfer Mis Mehefin.
Mae'n bleser gen i enwebu'r Parchedig Tom Defis.