91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2006

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
Cymru'r Byd

»

Urdd 2006

O'r Maes
Lluniau

Cefndir

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Eurig Salisbury Cadair goleuni'r machlud i Eurig
Machlud bae yn goleuo diflastod
Daeth bardd cadeiriol Eisteddfod yr urdd eleni yn ail yn yr un gystadleuaeth bedair gwaith yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.

Hynny yn rhinwedd y ffaith iddo anfon dwy gerdd i'r gystadleuaeth eleni - gan gipio'r ail wobr yn ogystal â'r gyntaf.

Bardd mewn coed a bardd geiriau Yr oedd yn ail hefyd y llynedd ac yn gydradd ail ag ef ei hun pan enillodd ei 'ddisgybl barddol' a'i gyfaill mawr, Hywel Griffiths, y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2004..

Ymhlith y rhai a ddaeth i'w longyfarch yn dilyn y seremoni ar lwyfan y Brifwyl yn Rhuthun yr oedd gwneuthurwr y gadair, Ian Pickstock perchennog Bizarre Furniture, Rhuthun, sydd hefyd wedi ei ddewis i wneud cadair yr Eisteddfod Genedlaethol a fydd yn ymweld â'r Wyddgrug y flwyddyn nesaf.

Am y gadair a enillwyd gan Eurig Salisbury ar y testun Goleuni dywedodd mai ei nod oedd bod yn gyfoes heb fynd dros ben llestri.

 "Roeddwn i eisiau i'r gadair fod yn gyfoes ac i apelio at genhedlaeth newydd heb fynd dros y top. Mae cynllun glân, syml iddi ac mae hi wedi ei llunio o goed ynn Cymreig lleol," meddai.

Dywedodd iddo greu pedwar cynllun i'r Eisteddfod ddewis o'u plith.

Canmolwyd y gadair gan y bardd a'i henillodd, yn enwedig y llythrennu cerfiedig arni.

Cyfieithydd yn gweithio gyda'r Cynulliad Cenedlaethol yn Aberystwyth ydi Eurig Salisbury ac yn ei gerdd y mae'n disgrifio diflastod a syrffed gweithiwr swyddfa wrth ei waith a'r gollyngdod sy'n dod iddo o wylio goleuni'r haul yn machlud dros Fae Ceredigion - er mai y Bae yng Nghaerdydd a ddarluniwyd ar sgrin mawr ar lwyfan yr Eisteddfod yn ystod seremoni'r cadeirio.

Prysurodd Eurig i ddweud hefyd nad yw ei waith beunyddiol ef mor ddiflas a'r hyn a ddisgrifir yn y gerdd.

"Y mae ambell i ddiwrnod reit gyfrous," meddai.

Datgelodd hefyd mai'r ail gerdd a gyfansoddodd ar gyfer y gystadleuaeth oedd hon ac mai'r gerdd gyntaf a anfonodd a ddaeth yn ail.

Yn cael ei holi gan Sian Parry Huws, Radio Wales Lluniodd ei gerdd fuddugol rhyw wythnos cyn y dyddiad cau pan oedd ei gariad, Rhiannon, i ffwrdd yn Iwerddon.

"Daeth y llinellau cyntaf yn rhwydd ac fe ddechreuodd y gerdd fynd yn hir ac yn hirach.

"Ond Rhiannon wnaeth fy annog i'w chwblhau fel mae hi'n mynnu fy atgoffa fi'n awr!" meddai.

Er wedi ei eni yng Nghaerdydd symudodd teulu Eurig i Langynog, ger Caerfyrddin, pan oedd yn chwech oed lle'r aeth i Ysgol Gynradd y Dderwen ac Ysgol Gyfun Bro Myrddin.

. Ym mhrifysgol Aberystwyth graddiodd yn y Gymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu.

Cyflwynodd draethawd MPhil ar Ganu Cynnar Guto'r Glyn ychydig fisoedd yn ôl ac mae'n gobeithio derbyn y radd yn yr haf.




About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý