Cliciwch yma i weld lluniau o'r Bobathon.Rhwng yr holl aelodau bu Teulu Twm yn nofio, seiclo a cherdded cyfanswm y pellter rhwng canolfan Bobath yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd a chanolfan Bobath yn Glasgow yn Yr Alban - sef tua 450 o filltiroedd mewn tywydd digon diflas a gwlyb.
Mae canolfan Bobath yng Nghaerdydd yn darparu therapi arbenigol i blant yng Nghymru sydd â pharlys yr ymennydd (cerebral palsy). Mae parlys yr ymennydd yn effeithio ar allu plentyn i symud a datblygu yn y ffordd arferol, ond mae'r therapi mae Bobath yn darparu yn helpu pob plentyn i reoli ei gorff yn haws - gan eu galluogi i chwarae, i ddysgu ac i ddatblygu hyd eithaf eu potensial.
Yn ôl Geraint Lewis, un o aelodau Teulu Twm, "Mae codi arian ar gyfer unrhyw elusen yn gwella ymwybyddiaeth pobl ynglŷn â gwaith yr elusen yna, ond pan mae'n elusen sy'n ymwneud â phlant, mae'n cyffwrdd pawb. Wedi'r cwbl, fuodd pawb yn
blentyn unwaith. Gobeithio bydd hyn yn ysgogi mwy o bobl i geisio codi arian ar gyfer elusennau tebyg."
"Roedd yn benwythnos caled a heriol ac roedd yn ffordd bell i gerdded, seiclo a nofio. Drwy wneud hyn rydym yn ceisio tynnu sylw at y pwysigrwydd o gael canolfan therapi Bobath yng Nghymru a thrwy hynny i godi arian i'r ganolfan yng Nghaerdydd." Meddai Huw M. Roberts, un o'r arweinwyr.
Cliciwch yma i weld lluniau o'r Bobathon.