'Bobathon' ieuenctid Pontypridd
Bu aelodau o glwb ieuenctid Teulu Twm o Gapel y Tabernacl yn Efail Isaf ger Pontypridd yn gwneud 'Bobathon', ymgyrch i godi arian i Bobath - Canolfan Therapi Plant Cymru yng Nghaerdydd sy'n darparu therapi arbenigol i blant sydd â pharlys yr ymennydd.
Ar ôl ymgyrch Camu Dros Dlodi yn 2005 roedd Teulu Twm yn awyddus i wneud gweithgaredd awyr agored unwaith eto eleni. Fe feddyliodd y criw am y syniad o wneud 'Bobathon' gan nofio, seiclo a cherdded cyfanswm y pellter rhwng canolfan Bobath yn Eglwys Newydd yng Nghaerdydd a chanolfan Bobath yn Glasgow yn Yr Alban, tua 400 o filltiroedd.
Yn ôl Geraint Lewis, un o aelodau Teulu Twm, "Mae codi arian ar gyfer unrhyw elusen yn gwella ymwybyddiaeth pobl ynglŷn â gwaith yr elusen yna, ond pan mae'n elusen sy'n ymwneud â phlant, mae'n cyffwrdd pawb." Cliciwch trwy'r lluniau isod i weld y criw ar eu taith.
|