Clwb Ieuenctid o Bontypridd yn dilyn esiampl enwogion y byd er mwyn rhoi terfyn ar dlodi.
Bu criw o aelodau o glwb ieuenctid Teulu Twm yn Efailisaf, ger Pontypridd, yn "Camu Dros Dlodi" yn ystod penwythnos Mawrth 19-20, 2005 gan gerdded miliwn o gamau i gynrychioli'r nifer o blant fydd yn marw o dlodi yn ystod mis Mawrth yn unig yng ngwledydd y Trydydd Byd.Roedd y clwb, sy'n cwrdd yn festri Capel y Tabernacl, yn codi arian i elusen 'Rhown Derfyn ar Dlodi - Make Poverty History' gafodd ei ddewis gan yr aelodau ar sail yr ymgyrch rhyngwaldol sy'n digwydd yn ystod 2005. Bu'r criw yn dylunio logo arbennig ar gyfer yr ymgyrch ac yn creu crysau-t i wisgo yn ystod y daith. Benthycwyd mesuryddion camau gan gynllun Her Iechyd Cymru - Health Challenge Wales o'r Cynulliad, i allu cyfri'r nifer o gamau a gerddwyd dros y ddeuddydd - a'r cyfanswm terfynol oedd 1,029,138. Cliciwch ar y lluniau isod i weld sut daeth y criw ymlaen gyda'u camau!
|