Trefnwyd y daith i ymweld â'r Senedd Ewropeaidd gan bwyllgor Cangen y Garth ac yn ogystal â'r dwsin o aelodau o Gangen y Garth daeth ffrindiau o ganghennau eraill a rhai o swyddogion cenedlaethol y mudiad.
Cawsom daith hwylus gyda Gareth o gwmni Edwards yn yrrwr gofalus ohonom a pharod ei gymwynas. Treuliwyd y ddwy noson yng ngwlad Belg yn nhref brydferth Bruges (neu Brugge yn yr iaith Fflemeg) ac ar ddydd Mercher Mai l0fed dim ond taith awr oedd gyda ni i ddinas Brwsel. Gwenodd yr haul a chawsom fore hyfryd o grwydro o amgylch canol hynafol yr hen ddinas...ac efallai mai "crwydro" oedd y gair gorau i ddisgrifio hanes hanner dwsin o'r merched - bu bron i'r bws orfod gadael am y Senedd hebddynt am iddyn nhw gamddeall lleoliad y man cyfarfod. Ond a ninnau ar bigau'r drain heb wybod beth i'w wneud, dyma nhw yn rhuthro a'u gwynt yn eu dwrn i fyny'r rhiw am yr Eglwys Gadeiriol. Roedden nhw wedi anelu am eglwys arall!
Yn griw cyflawn, hapus unwaith eto, cyrhaeddom y Senedd ac wedi mynd trwy rigmarol diogelwch aethom i mewn i'r cyntedd ac yno i gwrdd â ni yr oedd Jill Evans, Aelod Plaid Cymru yn Senedd Ewrop ynghyd â Haf Elgar a Sara sydd yn rhedeg ei swyddfa. Bu Jill yn ein hannerch am ryw hanner awr mewn ystafell seminar gan egluro beth yw gwaith ASE, pa fath o bwyllgorau y mae hi' n eistedd arnynt a sut yr oedd yn rhannu ei gwaith rhwng Cymru a Brwsel.
Mae teithio yn rhan annatod o'r swydd gan ei bod yn cynrychioli Cymru gyfan ac yn teithio ledled Cymru pan fydd hi adre yn ogystal â theithio'n wythnosol i Frwsel ac yn ôl. Ar ben hyn, mae'r Senedd yn cyfarfod unwaith y mis yn Strasbourg a rhaid codi pac a mynd â'r holl bapurau, pamffledi ayyb i lawr yno. Eglurodd Jill bod yr holl aelodau o Senedd Ewrop am newid y drefn hon ond gan ei fod yn ysgrifenedig yn y cytundeb gwreiddiol bod 12 cyfarfod y flwyddyn i fod yn Ffrainc, nid yw llywodraeth Ffrainc am ildio er bod yr Undeb Ewropeaidd wedi newid cryn dipyn ers y dyddiau cynnar.
Yn dilyn anerchiad Jill, cawsom gyfle i'w holi ac yr oedd y llu cwestiynau yn dangos y diddordeb mawr yn y Sefydliad ac yng ngwaith Jill. Yn wir, gymaint oedd y nifer y cwestiynau, bu raid i ni ddod â'r cyfarfod i ben wedi awr a chwarter gan fod cyfarfod arall gyda Jill ac yr oedd wedi trefnu ffotograffydd i dynnu ein llun ni gyda hi.
Dilynwyd hyn gan sesiwn gydag un o'r swyddogion Saesneg a aeth â ni i weld y Siambr a diddorol oedd gweld yr holl flychau ar gyfer y cyfieithwyr, ond trist yw nodi nad yw'r Gymraeg eto yn iaith gydnabyddedig yn Senedd Ewrop. Y mae Prif Weinidog Sbaen newydd sicrhau bod Catalaneg, Basgeg a Galisieg yn cael eu cyfrif yn ieithoedd swyddogol gyda chyfieithwyr wrth law i gyfieithu unrhyw araith yn yr ieithoedd hynny.
Ond oni wnaiff ein Prif¬ Weinidog ni newid ei gân a phledio achos y Gymraeg, ni fydd y Gymraeg yn cael ei chydnabod yn y Siambr. Yn ôl Jill, pan gododd hi'r mater gydag ef, wfftio a wnaeth a thrin ei chwestiwn fel jôc.
Un pwynt arall a godwyd oedd cysylltiad y pedwar Aelod o Gymru â'i gilydd a siom fawr i ni oedd sylweddoli nad ydynt yn cyfarfod fel grŵp Cymraeg trawsbleidiol i godi llais dros Gymru a sicrhau bod sylw yn cael ei roi i Gymru ar wahân i Loegr. Yr ydym fel cangen yn golygu ysgrifennu atynt i bwyso arnynt i roi eu hymlyniad at blaid yn ail i'w hymlyniad dros bledio achos Cymru yn Ewrop.
Wedi prynhawn o ddysgu a thrafod, roedd yn braf cael ymlacio yn nhawelwch camlesi Bruges a mwynhau swper blasus yn un o'r bwytai bach yn y strydoedd hynafol. A chyn ymadael am adre y bore canlynol, rhaid oedd cael un trip bach arall i siopa neu i fynd yn hamddenol mewn cwch ar hyd y camlesi o dan awyr ddigwmwl.
Aeth y tri diwrnod heibio yn rhy gyflym - gwelsom gymaint ag fe wnaethom ddysgu cymaint a mwynhau mas draw ... a sylweddoli hefyd mor agos yw tir mawr Ewrop wedi'r cyfan wrth inni gael brecwast yng Nghaerdydd a swper ym Mruges, ac mor bwysig yw hi i ni ddysgu mwy am Ewrop a'i sefydliadau sydd yn cael cymaint o ddylanwad ar y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau.