Ar y 23ain o Ionawr cynhaliwyd cyngerdd gan gôr merched Trefyrug o dan arweiniad Mrs Rosemary Ashman. Hi hefyd yw organyddes yr eglwys. Ar y 12fed o Fis Mawrth cafwyd cyngerdd gan Gôr Meibion Cwm Rhondda pryd y cafwyd datganiad o eitemau Cymraeg a Saesneg ag wrth gwrs CWM RHONDDA i ddechrau. Mae yna eglwys arall rwyf wedi cyfeirio ati yn hanes William Evans sef y Capel Bach a adeiladwyd fel cangen i Eglwys Llantrisant ag yn ddiweddarach fei enwyd yn Sant Joan Fedyddwyr. Hyd at y saithdegau cynhaliwyd gwasanaethau Cymraeg yn y Capel Bach a Saesneg yn yr eglwys newydd. Daeth ei hangen i ben yn y saithdegau a gwerthwyd yr adeilad ag erbyn hyn mae yn fan cyfarfod Sgowtiaid. Mae yna gofeb iddi yn eglwys Dewi San fel y gweler yn y llun. Pob bendith iddynt yn y dathlu bydd mwy am hyn eto.
|