Mae nifer o bobl Rhondda Cynon Taf wedi cyfoethogi eu
bywydau trwy fynychu cwrs Cymraeg yng Nghanolfan Cymraeg i
Oedolion y Brifysgol, ac yn eu plith y mae Meriel Gainsbury.
Penderfynodd Meriel, 43, sy'n fam i ddau o blant, ddysgu
Cymraeg am ei bod eisiau i'w phlant gael eu magu'n ddwyieithog.
Athrawes Almaeneg a Ffrangeg oedd Meriel cyn iddi adael ei
swydd i fagu gael plant. Oherwydd ei diddordeb brwd mewn
ieithoedd aeth ati i fynychu gwersi Cymraeg yn ystod y cyfnod o
seibiant o'i gyrfa. Cafodd ei hysbrydoli gymaint gan y cwrs
Cymraeg i Oedolion fel y derbyniodd y cynnig o fynd yn diwtor
yn syth.
Meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i
Oedolion, Prifysgol Morgannwg: "Mae stori Meriel yn gyffredin o
ran ei phenderfyniad i ddysgu Cymraeg am ei bod yn awyddus i'w
phlant gael eu magu'n siarad yr iaith. Mae cymaint o rieni'n dewis
dilyn cyrsiau Cymraeg i Oedolion oherwydd hyn, ac o ganlyniad
ceir cynnydd yn nifer y bobl sy'n mynychu'n cyrsiau"
Yn ôl Meriel: "Cefais yr wybodaeth am y cwrs yn y Cylch
Meithrin lleol, ac mi es ati'n syth i gofrestru. Yn ogystal â'm
brwdfrydedd dros ieithoedd, roeddwn yn awyddus i fedru helpu fy
mhlant gyda'u gwaith cartref yn Gymraeg, ac i siarad gyda nhw
yn yr iaith wrth iddyn nhw ei dysgu eu hunain.
"Roedd yn her cydbwyso bod yn fam
â dysgu gyda'r nos, ond mi wnes
fwynhau ac roeddwn wrth fy modd pan
glywais fy mod wedi cael 'A' ar
ddiwedd y cwrs."
Mae Meriel yn enghraifft wych o
ddysgwr sydd wedi gwneud yn fawr o'r
cyfle i ddysgu, ac mae wedi profi nad
yw dysgu Cymraeg mor anodd ag mae
pobl yn ei gredu. Mae'r chwe chanolfan
Cymraeg i Oedolion yng Nghymru'n
cynnig amryw o gyfleoedd i ddysgwyr
ymarfer eu Cymraeg trwy raglen o
weithgareddau dysgu anffurfiol, a'u
hymgais dyfal yw ysbrydoli dysgwyr i
fod yn rhugl yn yr iaith.
Y llynedd, gwelwyd cynnydd pellach
yn y nifer o oedolion oedd yn cael
gwersi yng nghanolfan y Brifysgol, a
ariennir gan Lywodraeth Cynulliad
Cymru. Un o nodweddion mwyaf
addawol y ddarpariaeth oedd y cynnydd
yn y niferoedd oedd yn dychwelyd i
fynychu dosbarthiadau lefelau uwch sy'n
dangos fod y myfyrwyr yn
mwynhau'r dosbarthiadau ac yn
dymuno bod yn siaradwyr rhugl.
Aeth Helen ymlaen: "Yn dilyn yr
ymgynghoriad ar Strategaeth Addysg
Llywodraeth Cynulliad Cymru, y gyntaf
erioed trwy gyfrwng y Gymraeg, a
gyhoeddwyd llynedd, rwy'n gobeithio y
bydd mwy a mwy o oedolion yn gweld
yr iaith Gymraeg fel 'sgil' ac yn dewis
mynychu cyrsiau.
"Rydym yn falch iawn bod myfyriwr
cystal â Meriel wedi penderfynu ymuno
â'r tîm i helpu ac i ysbrydoli mwy o
oedolion i ddysgu Cymraeg."
Bydd Meriel yn dechrau ei swydd
dysgu yng Nghanolfan Cymraeg i
Oedolion y brifysgol ym mis Medi.
Am ragor o wybodaeth am wersi
Cymraeg ar unrhyw lefel ewch i
www.welshforadults.org
|