Pleser yw adrodd mai llwyddiant ysgubol oedd y 'Diwrnodau o Hwyl' a gynhaliwyd ar ddiwedd mis Mehefin ar gaeau chwaraeon canolfan Michael Sobell yn Aberdar ar ddydd Mercher yr 21ain, ac ar gaeau chwareon TÅ·'n y Bryn, Tonyrefail ar ddydd lau yr 22ain.
Daeth tua 400 o blant ysgolion cynradd o Fro Morgannwg i Donyrefail. ac oddeutu'r un nifer o Flaenau Morgannwg i Aberdar. Roedd y tywydd yn wych i'r ddau ddiwrnod, yn galluogi'r holl blant i fwynhau pob gweithgaredd i'w gyfanrwydd. Roedd trawsdoriad eang o weithgareddau wedi eu paratoi, rhywbeth at ddant pawb! Roedd cyfle i ymarfer sgiliau pêl-droed, rygbi, golff, athletau, dawns, a syrcas. Yn ogystal â hyn roedd cyfle i chwarae gemau parasiwt, mabolgiamocs a rownderi. Galwodd Mistar Urdd draw i Aberdar a Thonyrefail i weld y plant ac i fwynhau y tywydd braf!
Roedd y plant a'r staff wedi mwynhau y diwrnod yn fawr. Hoffwn ddiolch i'r holl blant ar athrawon am fod mor fodlon i gymryd rhan ym mhob gweithgaredd ac am ymuno yn ysbryd hwyliog y dydd!
Diolch i bawb a wnaeth ymuno a'r Urdd eleni. Mae nifer o bethau wedi eu cynllunio ar eich cyfer ar gyfer y tymor newydd, felly ymunwch a'r Urdd i gael nifer o gyfleoedd llawn Hwyl a Sbri!!!!!!!
|