Trefnwyr y 'ras' yw'r Gymdeithas Cystic Fibrosis, a'r bwriad yw codi cymaint ag y bo modd o bres i gynorthwyo gwaith y Gymdeithas hon. Mae'r clefyd Cystic Fibrosis yn hynod o gyffredin ym Mhrydain Fawr ac fe effeithir dros 7,500 o blant a phobl ifanc gan yr aflwydd. Ar hyn o bryd does dim gwella o'r salwch a nod y Gymdeithas yw ariannu ymchwil pellach er mwyn ceisio darganfod ateb i'r afiechyd. Bydd dwy ras ar yr ail o Fai - ras 5 milltir a 'ras hwyl', 2k o hyd. Yn y 'ras hwyl' bydd teulu cyfan o Maes y Dderwen yn rhedeg er mwyn codi cymaint o arian ag sy'n bosib at yr achos - Ann a Phil Angell, a'u meibion, Tomos sy'n 7 oed a Daniel sy' ond yn 5 oed ac yn ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Creigiau. Mae'r achos yn agos iawn at galon y teulu yma gan y byddant yn rhedeg dros Sian, nith Ann. Merch ifanc o Alltyblacca ger Llanybydder, yw Sian, sy'n dioddef o'r cyflwr Cystic Fibrosis. Mae Sian wedi wynebu llawer o driniaethau dros y blynyddoedd, yn Llundain a Chaerdydd fel ei gilydd. Cefnogwch Sian, cefnogwch 'deulu'r Angell' - os am addunedu pres. Pob lwc, bawb! A sôn am redeg ... ...croeso adre i Eurof Davies, Cwrt Tregarth! Tipyn o orchest! Wedi llwyddo i redeg marathon Llundain unwaith eto! Llongyfarchiadau Eurof, nid yn unig ar yr orchest ond am lwyddo i godi dros £500 ar gyfer Apêl Arch Noa. Ar y pnawn Sul yr 17eg o Ebrill roedd dros 36,000 o redwyr yn aros i Syr Steve Redgrave ddechrau marathon Llundain ac yn eu plith roedd Eurof. Ar ôl misoedd o redeg ar hyd strydoedd Creigiau a Phentyrch roedd hi'n amser profi'r ffitrwydd. A ma' Eurof yn ffit! Llwyddodd i orffen mewn 3 awr a 33 munud. Amser gwych! Er mai hon oedd yr wythfed marathon iddo redeg yn cynnwys Efrog Newydd a Brwsel, dyma'r cyflymaf iddo redeg marathon Llundain sy'n profi bod modd gwella 'da oedran! Diolch i bawb am eu cefnogaeth ac os am gyfrannu ymhellach - cysylltwch â'r Tafod. Ni chlywodd Sarah, ar ôl iddo orffen, y geiriau 'byth eto' felly ymlaen â'r ymarfer ac i'r ras nesa!
|