Ar ddydd Sul, Mawrth 30ain, bu pedwar tîm (gyda thri aelod) yn darllen rhan o lyfr chwedl Dic Penderyn gan Meinir Wyn Edwards. Roedd yr aelodau i gyd yn ail iaith bron a gwelwyd budd mawr i'r gystadleuaeth.
Dywedodd aelod "dwi'n mawr obeithio y bydd y gystadleuaeth hon yn sbarduno mwy o weithgareddau cyfrwng Cymraeg yn y sir yn y dyfodol agos. Mae amryw o'n haelodau yn defnyddio'r iaith o fewn ffiniau'r ysgol ond yn aml iawn does dim cyfleoedd cymdeithasol i ddefnyddio'r iaith y tu allan".
Yn ôl Siwan Hywel, sydd yn gweithio i Fudiad Ffermwyr Ifanc Cymru fel Swyddog Hyrwyddo'r Gymraeg "Pwrpas y diwrnod oedd creu mwy o gyfleon i'n haelodau ddefnyddio'r iaith Gymraeg yng ngweithgareddau'r Ffermwyr Ifanc. Rydyn ni wedi dechrau gydag un gystadleuaeth ond mawr obeithiwn y bydd y ddarpariaeth yn cael ei hehangu yn unol â gofynion ein haelodau."
Enillwyr y gystadleuaeth oedd Hannah, Delun a Ceryn o Glwb Llantrisant. Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw.
|