Beth sy'n gwneud i grwt a chroten o
Greigiau fynd i'r gwledydd oer? Ar ôl 9 mis
yn yr Antarctic, fel meddyg ar y llong
ymchwil RSS James Ross Clark, daeth
Nerys Lewis, (Heol PantyGored,
Creigiau)
yn ôl ym mis Gorffennaf. Ac wedyn, codi
pac eto a mynd i'r cap iâ yn Greenland am
fis, fel meddyg i'r grŵp ymchwil
rhyngwladol o Brifysgol Copenhagen sy'n
drilio trwy'r iâ. 'Roedd yn 23'
C, ac 'roedd
Nerys yn cysgu mewn pabell! Roedd mor
oer ni allai awyren Hercules yr UDA godi
o'r iâ heb rocedi ychwanegol ar yr adenydd.
Wedyn, ym mis Awst, ailymunodd
Nerys
â'r llong, ac fe dreuliodd 6 wythnos yn yr
Arctic. Bydd yn mynd yn ôl i'r Antarctic fis
Rhagfyr ar yr RSS James Cook.
Ond mae'n amlwg nad ydy'r Lewisiaid yn
teimlo'r oerfel. Mae Geraint, brawd Nerys,
Hoffi'r Oerfel!
sydd hefyd yn feddyg yn gweithio i
Ymddiriedolaeth Nuffield yn Llundain, wedi
derbyn gwahoddiad oddi wrth llywodraeth
Canada i fod yn aelod o grŵp o arbenigwyr
sy'n cynghori'r llywodraeth ar iechyd
cyhoeddus yr Inuit (gynt yn "Escimos").
Mae hyn yn golygu gwneud 5 ymweliad,
wythnos o hyd, i Nunavut (gynt y "North
West Territories") gwlad
cymaint ag
Ewrop ond gyda phoblogaeth o ddim ond
31,000 yr
un faint ag Aberdâr!). Roedd yn
gymhedrol fwyn pan aeth Geraint yno yn yr
haf, ond bydd yn 40'
C pan aiff yno ym mis
Ionawr.
|