Roedd y gorchwyl amhleserus yn llaw Llywydd Henaduriaeth Dwyrain Morgannwg Y Parchedig T. Evan Morgan, Bugail Salem, Canton Caerdydd. Daeth cynulleidfa niferus ynghyd, rhai wedi dod o bell a oedd ganddynt gof byw am yr hen amser llewyrchus a fu. Roedd yno dros 100 o aelodau adeg yr ail ryfel byd a rhain wedi gostwng i l3 o aelodau, Miss Jean Thomas, Miss P. Vida Morgan, Mrs C. Buck, Mrs Beryl E.Davies, Mrs M. Holtam, Mrs Mary Williams, Mr D. Jenkyn Davies, Mrs Gwennie John, Mr Dewi Bonner, Mrs Myfanwy Hunt, Miss Betty Prosser, Miss Marion Llewelyn a Mrs Ivy Priddle. Mae marwolaeth Mrs Priddle ar y 6ed o Ionawr yn gwneud y rhif erbyn hyn yn 12. Cafodd y gwasanaeth cyntaf Methodistaidd ei gynnal yn 1770 yn ffermdy bonedd Collenna sydd ir gogledd i bentref Tonyrefail, ar ôl i Mr a Mrs Evan Prichard Collenna fynd i wrando ar bregethu grymus gwyr agored yn ymyl Capel Llanbad sydd ar ben mynydd y Rhiw yn wynebu ar Llanharan. Mae'r adfeilion yn dal yno. Yn draddodiadol roedd dathlu Gwyl Mabsant yn bwysig iawn yn y cyfnod hynny, roedd yr wyl ar y Sul yn dilyn Gwyl Ddewi. Dirywiodd y dathlu'n derfysglyd gan y dawnsio ac yfed a gamblo wrth ddathlu dyfodiad y gwanwyn. Doedd hyn ddim wrth fodd y Parchedig Dafydd Jones a oedd wedi ei benodi yn Ficer Llangan yn 1767. Roedd Dafydd Jones yn bregethwr grymus ac yn benderfynol o newid safon moesoldeb a chrefydd, roedd yn un o'r grwp cynnar Methodistaidd i ddiwygio ac adfywio'r Eglwys oddi mewn. Daeth tyrfa fawr i wrando ar ei bregethu awyr agored ag yn fuan iawn try'r wyl Mabsant yn yr hyn roedd yn ei gondemnio yn Gymanfa Ganu. Bu'n cynnal gwasanaethau blynyddol yno am ddeng mlynedd ar hugain.Daeth pregethwyr enwog iawn y cyfnod i gynnal gwasanaethau yn ffermdy Collenna fel y Parchedigion Dafydd Jones Llangan. Peter Williams Caerfyrddin ar emynwr amlwg William Williams Pantycelyn a ysgrifennodd alar gân i Susanah Prichard un o ferched Collenna. Roedd yno bulpud arbennig yn cael ei ddefnyddio. Diflannodd hwnnw ac nis gwyr neb i ble.Adeiladwyd y capel Methodistaidd cyntaf yn 1791 ar dir a roddwyd gan deulu Collenna ar les am 999 o flynyddoedd. Deugain o flynyddoedd yn ddiweddarach adeiladwyd yr ail gapel tu ôl ir hen adeilad. Agorwyd gyda dathliadau ar y 10fed ar lleg o fis Mai 1836. Yn y flwyddyn 1857 adeiladwyd y festri a defnyddiwyd y festri i gynnal Bwrdd Ysgol hyd at 1870. Adeiladwyd y trydydd capel yn 1863 y tu ôl eto ir ail, a hwn felly yw'r capel presennol a alwyd yn Capel Ar Y Ton. Cafodd y capel hwn ei adeiladu gan wirfoddolwyr a chostiodd £1300 a thalwyd y ddyled erbyn 1880. Yn 1893 adeiladwyd y ty capel a helaethu'r festri am gost o £1100.
|