Roedd y cynllunio a'r trefniadau wedi bod ar y gweill am fisoedd a llawer o'r cyfrifoldeb wedi disgyn ar ysgwyddau teulu'r Tudno-Jones. Mair Roberts, Cyfarwyddydd Cerdd y Côr oedd wedi darganfod a sicrhau nawdd ar gyfer y daith ac roedd Nia ei merch sy'n byw gyda'i theulu yn Hong Kong, wedi rhoi llawer o wybodaeth leol er mwyn paratoi'r côr am yr ymweliad.
Cyflwynwyd pedwar cyngerdd - un yng Ngwesty'r Ritz Carlton ac un yn y Deco Restaurant ar y Peak. Cyflwynwyd cyngerdd yn y ganolfan siopa foethus y Landmark sy'n cael ci reoli gan y Cymro, Huw Andrew sydd â'i rieni'n dod o Landybie.
Roedd Eglwys Gadeiriol Hong Kong yn llawn i'r ymylon ar gyfer v brif gyngerdd ac mae'r côr yn deall fod tua 800 yn y gynulleidfa a chodwyd dros £7,000 y noson honno i elusen roedd yr eglwys wedi penderfynu cynorthwyo. Adlewyrchwyd llwyddiant y gyngerdd wrth i'r gynulleidfa i gyd godi ar eu traed ar gyfer y gymeradwyaeth ar y diwedd. Yna cafwyd derbyniad ardderchog yng ngerddi'r eglwys gadeiriol.
Nid oedd llawer o aelodau'r côr wedi bod yn Hong Kong o'r blaen a'r hyn a oedd wedi tynnu sylw pawb oedd y bensaernïaeth syfrdanol ar ynys ganolog Hong Kong, a thrwch y boblogaeth mewn ardal mor gyfyng. Cafwyd y pleser pellach o weld Hong Kong wedi ei addurno yn swmpus ar gyfer y Nadolig.
Trefnwyd nifer o weithgareddau cymdeithasol yn cynnwys taith ar junk i weld y golygfeydd (taith a drefnwyd gan Gymro arall, Huw Jenkins o'r cyfreithwyr Clifford Chance, sy'n dod o ardal Llanbedr Pont Steffan). Hefyd cafwyd noson fywiog dros ginio gydag aelodau côr meibion Cymdeithas Gymraeg Hong Kong a hefyd dathliad arbennig pen-blwydd Siwan Dafis, cyfeilydd y côr, yn 21. Roedd digon o amser rhydd i bawb grwydro a daeth nifer yn arbenigwyr ar y sustem tramiau ardderchog. Roedd bargeinion marchnad Stanley, y Big Budda a'r fynachlog, a'r siopau electroneg a jade yn Kowloon yn boblogaidd iawn.
Felly gellir ychwanegu Hong Kong i'r rhestr faith o leoliadau tramor sydd wedi goroesi ymweliad gan Gantorion Creigiau. Ble nesaf? Belfast ym mis Mai. Mae'r côr yn byrlymu. Dewch i ymuno â ni - a chymryd rhan yn yr hwyl!
|