Mae Dawnswyr Bro Taf yn
bencampwyr dawnsio gwerin y byd yn y
dosbarth i blant.
Yn hwyr nos Sadwrn, Ebrill 18, fe
enillodd y grŵp ifanc y wobr gyntaf
mewn cystadleuaeth bwysig ar ynys
Mallorca. Mewn gwledd o liw ac asbri,
dyma nhw'n cipio'r wobr yng Ngŵyl
Ddawnsio Gwerin y Byd. Roedd timau
o bedwar ban byd yn cystadlu yn yr ŵyl
a phob un yn ymfalchïo yn eu diwylliant
a'u traddodiadau.
Dros wythnos, fe fu'r grŵp yn
perfformio o gwmpas dinas hynafol
Palma, yn derbyn clod mawr gan y
beirniaid a'r gwylwyr. Yn ôl un dyn o
Mallorca, dyma yn ei farn ef oedd y
perfformiadau gorau a brofodd mewn 66
mlynedd o ddilyn dawnsio gwerin.
Yn teithio gyda'r 20 o berfformwyr,
roedd tîm o rieni, cerddorion a
thiwtoriaid.
Meddai Ann Brookman, un
o'r rhieni fu mor weithgar yn codi arian
i'r grŵp, "roedd gweld y plant yn
dawnsio o'r galon yn rhywbeth
bythgofiadwy. Wna'i fyth anghofio'r
profiad ac yn sicr wnaiff fy merch
Charly Ann fyth; mae fy llais yn brifo o
hyd. Ni chlywodd Palma Oggi, oggi,
oggi fel hyn erioed o'r blaen!"
Mae'r grŵp wedi bod yn llwyddiannus
iawn yn clocsio a dawnsio gwerin, yn
ennill yn Eisteddfod yr Urdd, y wobr
gyntaf i blant yn Eisteddfod Ryngwladol
Llangollen llynedd a nawr yn
bencampwyr ifanc y byd ym Mallorca.
Wrth gyrraedd adref yng Nghymru,
roedd gan un aelod, Josh Morgan, 12
oed o Greigiau, syniad ar gyfer y
dyfodol "pam na chawn i ni ymuno a'r
Shuttle a chlocsio yn y gofod!"
Ond nid yw'r llwyddiant yma wedi
dod dros nos i'r dawnswyr, sy'n ymarfer
bob nos Fawrth yn Ysgol Heol y Celyn
fel rhan o grŵp estynedig; maent yn
dysgu dawnsio, canu a drama.
Sefydlwyd y grŵp prin dair blynedd yn
ôl ac mae'r paratoi a'r ymarfer wedi bod
yn waith caled a chodi arian yn sialens.
Fe fydd y wobr o 1500 euro felly yn
werth ei chael.
Fe fydd realiti yn dychwelyd yn fuan,
meddai cyfarwyddwraig y dawnswyr,
Eirlys Britton. Dim ond ychydig amser sydd
cyn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd ym
Mae Caerdydd.
Roedd ennill ym
Mallorca yn brofiad teimladwy i Eirlys.
Fel un o sefydlwyr Dawnswyr Nantgarw
dywedodd Eirlys wrth y Tafod "mae
hwn wedi bod yn freuddwyd ers 20
mlynedd. Fe gawsom ni ail yno rai
blynyddoedd yn ôl. Ond mae ennill y
wobr gyntaf yn y dosbarth i blant yn
arbennig. Mae pawb wedi ymarfer yn
wych a hoffwn roi diolch mawr i fy
nghyd diwtoriaid Gavin Ashcroft a
Nerys Griffiths; heb anghofio'r rhieni
sydd wedi bod mor weithgar"
Yn wir, mae gan Ddawnswyr Bro Taf
dalent, llawer ohono fe.