91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tafod Elai
Gwenno Popty yn Rhydfelen
Rhagfyr 2003
Ym mis Tachwedd cafodd disgyblion Ysgol Gyfun Rhydfelen wledd gerddorol anferth. Cawson nhw ddisgo am ddim yn ogystal ac anrheg o CD 'Popty' a oedd yn cynnwys nifer o ganeuon diweddaraf grwpiau Cymreig Cymru.

Trefnwyd y prynhawn gan Rhys Mwyn, cynhyrchydd recordiau o'r Gogledd gyda help gan Adran Marchnata S4C, a chafwyd cymorth ariannol gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. "Pwrpas y prynhawn oedd i bwysleisio i bobl ifanc Cymru bod gennyn ni grwpiau pop sy'n canu trwy gyfrwng y Gymraeg sydd llawn cystal ag unrhywbeth byddant yn gwrando arno yn Saesneg".

Perfformiodd Gwenno, TNT ac Alun Cowles eu caneuon Cymreig er bod TNT hefyd wedi recordio gwaith yn y Saesneg gan eu bônt wedi cefnogi grwpiau megis Liberty X ac A1 mewn cyngherddau'n ddiweddar.

Dywedodd Nia Sheppeard, Blwyddyn 8, "Alun Cowles oedd y gorau achos dwi'n cofio ei weld e pan oedd e yn ein hysgol ni. Roedd yn wych ei weld yn canu ar y llwyfan jest fel Gareth Gates".

Cyflwynwyd y grwpiau gan Gethin Jones, sef un o gyflwynwyr Planed Plant, sydd hefyd yn 'Bachelor of the Year' cylchgrawn Company. Cafodd gyfweliad syth ar ôl y disgo gan Bethan Keogh ar gyfer ei raglen radio 'Amser Arddegau' ar GTFM, a gofynnodd iddo a oedd ennill y teitl wedi rhoi hwb i'w fywyd carwriaethol. Chwarddodd Gethin yn uchel cyn ateb "Dwi ddim yn siwr dy fod yn cael gofyn cwestiwn fel hynny i mi!"


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý