Wrth i'r Crynwr William Penn gael ei erlid o Brydain oherwydd ei gred, ymsefydlodd ym Mhennsylvania ym 1666 - dilynwyd ef gan eraill o'r un gred a chynigodd waith iddynt i ddatblygu'r 'Byd Newydd'. Cyd-ddigwyddai hyn oll gyda chyfnod o galedi mawr ym Ewrop ac o'r herwydd ymfudodd llawer iawn i Ogledd America yn chwennych gwell byd. Dywedir i ryw 7,000 o Gymry ymfudo i Ogledd America o gwmpas canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan gynnwys 250 o Formoniaid Cymraeg o Ferthyr Tydfil sefydlodd yn Salt Lake City. Cyrhaeddodd yr ymfudo o Gymru ei anterth oddeutu 1900 - 1910 pan groesodd rhyw 17,000 o Gymry dros Fôr yr Iwerydd. Dyna ddiwedd y bennod gyntaf o safbwynt y cefndir hanesyddol!
Ond o ble y daeth y llestri 'Gaudy Welsh'? O ganol yr unfed ganrif ar bymtheg byddai'r boneddigion Seisnig yn buddsoddi yn y porslen ceinaf a wnaed ar ynysoedd Japan. Cynhyrchwyd y porslen harddaf ar Ynys Kyushi ac fe'i allforiwyd o borthladd Imari - a dyna'r enw a roddwyd ar y porslen arbennig yma.
Hyd at 1760 deuai'r rhan helaethaf o borslen cain o'r dwyrain ac er mwyn ysgogi cynhyrchu crochenwaith yma ym Mhrydain gosododd y llywodraeth drethi mewnforio hallt iawn ar gynnyrch y dwyrain. Datblygodd crochendai niferus yma ym Mhrydain yn sgil y galw cynyddol am tseina a phorslen gyda llawer o'r crochendai adnabyddus yn copïo patrymau'r Imari. Cynhyrchwyd tseina o'r ansawdd uchaf gan gwmnïau megis Coalport, Davenport, Derby, Spode, Chelsea, Minton, Worcester - ac er taw byr eu hoedl - Abertawe a Nantgarw.
Roedd y crochendai Cymreig yn eu hanterth rhwng 1800 a 1820. Llestri ar gyfer y bonedd a gynhyrchwyd gan y crochendai y cyfeiriwyd atynt eisoes ond dyheai'r werin bobl am berchen ar lestri cyffelyb ond mwy fforddiadwy, felly sefydlwyd crochendai a gynhyrchai lestri cymharol rad a lliwgar yn ardal Swydd Stafford, Sunderland a Newcastle.
Llestri oedd yn drwm dan ddylanwad patrymau'r Imari. Caent eu hadnabod fel y Gaudy Dutch, Gaudy Ironstone, Gaudy Staffordshire a'r Gaudy Welsh. Cafodd patrymau gwreiddiol y Gaudy Welsh a gynhyrchwyd yn Abertawe a Llanelli eu copfo gan lawer o'r crochendai newydd a sefydlwyd yn Swydd Stafford. Tyfodd y diwydiant i'r fath raddau yn yr ardal honno fel buan iawn y gelwid hi 'Y Potteries'.
'Nôl yng Nghymru cafodd llestri eu gwneud yn Abertawe o tua 1764 hyd at 1870. Crochenwaith a wnaed i gychwyn yna yn ddiweddarach porslen mwy cain. Cysylltir yr enw William Billingsley crochenydd ac addurnwr cain iawn gyda llestri Nantgarw ac Abertawe fel ei gilydd.
Aeth ef ynghyd â thîm o weithwyr medrus o grochendy Nantgarw i ofalu am waith Abertawe ym 1814. Cynhyrchwyd y 'Swansea Fine China' hyd at 1870 - tseina o ansawdd arobryn iawn a'r cyfan wedi'i addurno efo llaw. Ond oherwydd nifer o broblemau technolegol wrth gynhyrchu, cwta un darn allan o bob deg fyddai'n cyrraedd y safon foddhaol - felly'n amlwg arweiniai hyn at broblemau cynhyrchu dybryd.
Wedi methiant cynhyrchu'r llestri porslen cain yn Abertawe trowyd i gynhyrchu crochenwaith o ansawdd is - darnau ar gyfer defnydd pob dydd y werin bobl darnau a nodweddir gan eu lliwiau hyfryd - glas cobalt, oren dwfn, coch a gwyrdd weithiau ar gefndir gwyn dyna'r 'Gaudy Welsh'. Adnabuwyd hwynt yn ôl eu patrymau - enwau megis Aberaeron, Asia, Bethesda, Bodnant, Gwynedd, Harlech, Llangennith, Llangollen, Menai, Rhiwderyn a llu o enwau eraill.
Erbyn hyn roedd crochendai Swydd Stafford yn eu hanterth ac yn gynhyrchiol dros ben. Oherwydd trafferthion eto daeth cynhyrchu i ben yn Abertawe ym 1910 ac fe drosglwyddwyd cynhyrchu llestri Abertawe ynghyd â'u patrymau i Swydd Stafford lle y parhawyd i gynhyrchu llestri a adnabyddwyd fel y 'Gaudy Welsh'.
Gofalwch amdanynt os ydynt yn eich meddiant. Mae iddynt hanes difyr a chryn werth bellach, mae'n siŵr.
Diolch o galon i H.R. am rannu'r wybodaeth efo ni.