Mae James Williams o Lantrisant wedi bod yn gweithio yn
Esquel a Threvelin, Patagonia am flwyddyn ac nawr mae'n
ffarwelio i ddod adref.
"Mae wedi bod yn flwyddyn fythgofiadwy allan yma yn yr
Andes, ac rwyf wedi gwneud ffrindiau am oes. Mi hoffwn
ddiolch i bawb, boed ym Mhatagonia neu yng Nghymru sydd
wedi fy nghynorthwyo yn ystod fy nghyfnod fel swyddog
Menter Iaith Patagonia yr Andes. "Mae wedi bod yn fraint ac yn
bleser cael cydweithio gyda thrigolion yr Andes dros y 10 mis
diwethaf. Rwy'n dymuno pob llwyddiant i Fenter Iaith
Patagonia am y dyfodol, ac rwy'n credu'n gryf yn ei fodolaeth
ar ôl gweithio yma, gan fy mod yn gallu gweld y dylanwad
cafodd y gwaith ar yr ardal a'r trigolion.
Ond nawr rhaid dychwelyd i Gymru fach, ac os oes gan
rywun ddiddordeb rwyf ar gael i sgwrsio gyda'ch mudiad lleol,
boed yn Ferched Y Wawr, Cymdeithas y Capel neu yn
gymdeithas yn y pentref, noson ffurfiol, anffurfiol, dwi'n
hyblyg iawn, a byddwn yn gofyn am gyfraniad bach i'r Fenter.
Os ydych am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda James Rhys
Williams trwy ebost;
jrhyswilliams@hotmail.com
|