Mae dau deitl Tintin yn Gymraeg, sef Mwg Drwg y Pharo ac Awyren 714 i Sydney yn barod i ddiwallu chwantau cannoedd o'i ffans yng Nghymru sy wedi bod yn awchu am gael darllen amdano yn Gymraeg ers hydoedd.
Mae poblogrwydd llyfrau Tintin a'i anturiaethau cyffrous yn anferthol. Yn wreiddiol o Wlad Belg, ac yn ffrwyth dychymyg yr awdur Hergé, mae'r straeon amdano wedi cael eu cyfieithu i dros 70 o ieithoedd. Ac yn dilyn saib fu'n rhy hir o lawer, mae'r cyhoeddwyr Dalen wedi dod â'r cymeriad hoffus a'i gyfeillion nôl i siarad Cymraeg.
Addaswyd y llyfrau Tintin Cymraeg gan Dafydd Jones o Benybont. Bu Dafydd yn ddisgybl yn Ysgol Llanhari yn y 70au, lle cafodd flas ar wella'i Ffrangeg drwy bori drwy lyfrau Tintin. Byth ers hynny, bu'n un o ffans pennaf Tintin a gwaith yr awdur Hergé yn gyffredinol ac mae ei gyfieithiadau newydd yn binacl ar freuddwyd fu ganddo ers blynyddoedd.
"Fe wnes i ddechrau darllen llyfrau Tintin yn Llanhari, gan ddychmygu ac uniaethu â'r digwyddiadau yn y byd eang drwy'r cloriau," meddai Dafydd, "ac roedd hyn wastad drwy'r Gymraeg".
Ers cyhoeddi'r llyfrau Tintin Cymraeg yn gyntaf nôl ar ddechrau'r 80au, mae Dafydd wedi cael dros chwarter canrif i feddwl sut alle fe wella ar y cyfieithiadau hynny. Dyma'r tro cynta i Mwg Drwg y Pharo ac Awyren 714 i Sydney ymddangos yn Gymraeg, ac erbyn hyn mae gwedd newydd i Tintin a'i ffrindiau.
Enw newydd ei gi bach ffyddlon yw Milyn; ei gyfaill o forwr yw'r Capten Hadog; y gwyddonydd penchwiban sy'n gwmni afieithus i Tintin yw Ephraim R Efflwfia; a'r ddau dditectif sy'n dueddol o wneud popeth o chwith yw Parry-Williams a Williams Parry.
Mae Mwg Drwg y Pharo ac Awyren 714 i Sydney wedi eu sgwennu'n ystwyth mewn dull y bydd darllenwyr o bob cwr o Gymru yn gallu uniaethu ag e. Gyda'r jôcs cynnil, yr enwau penigamp, a'r straeon anturus, bydd y llyfrau Tintin Cymraeg yn sicr o fod at ddant pawb o bob oedran sy'n hoffi stori dda am y cymeriad byd enwog eiconig.
Tintin: Mwg Drwg y Pharo a Tintin: Awyren 714 i Sydney pris £6,99 yr un. Mae mwy o fanylion am y llyfrau ar wefan Dalen, sef www.dalenllyfrau.com
|