Caiff y prosiect ei ariannu ar y cyd gan Y
Loteri Genedlaethol a'r Cynulliad, a'r disgwyl yw y bydd y gwaith
o ymestyn ac ailwampio'r
adeilad i'w droi'n ganolfan gymunedol
yn cymryd rhyw saith mis.
Y bwriad yw addasu'r hen festri, a godwyd yn wreiddiol
ddechrau'r ugeinfed ganrif, i fod yn ganolfan amlbwrpas
at
ddefnydd y capel a'r gymuned yn gyffredinol. Mae gan y
Tabernacl ddwy gynulleidfa, y naill yn addoli trwy gyfrwng y
Gymraeg a'r llall yn cynnal oedfaon Saesneg, ond bydd yr adeilad
newydd ar gael at ddefnydd cylch llawer ehangach o bobl, o fewn
y pentref ei hun a'r ardal o gwmpas.
Dyfarnwyd grant o £300,000 gan Raglen Cyfleusterau a
Gweithgareddau Cymunedol y Cynulliad, a £122,000 gan gronfa
Pawb a'i Le, Y Loteri Genedlaethol.
Dywedodd Emlyn Davies, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, "Mae
cyflwr gwael yr adeilad hwn wedi bod yn broblem ers peth amser,
ac yn llyffethair i'r capel rhag medru bod mor effeithiol ag yr
hoffem fod yn y gymuned.
Mae dirfawr angen am adnodd o'r fath yn
yr ardal, a bydd y ganolfan newydd yn
sylfaen i'r Tabernacl fedru parhau i
gefnogi elusennau lleol yn
ariannol ac yn
ymarferol, trwy fudiadau dyngarol
amrywiol a thrwy'r cydweithio agos
gyda'r gwasanaethau cymdeithasol."
Ymysg y grwpiau a fydd yn elwa o'r
datblygiad mae'r clwb ieuenctid sy'n
cyfarfod bob nos Sul.
Ychwanegodd Wyn Jones ,
Ysgrifennydd y Tabernacl, y bydd y
ganolfan yn gartref i nifer o fudiadau gan
gynnwys y Cylch Meithrin. "Elfen bwysig
arall o'r bwrlwm cymdeithasol yw bod y
Tabernacl, dros y degawdau diwethaf,
wedi bod yn ganolbwynt i amrywiaeth
eang o weithgareddau Cymraeg eu hiaith,
gyda gwahanol gorau a chymdeithasau yn
arfer cyfarfod yn yr hen festri, ond llawer
ohonynt wedi gorfod gadael oherwydd
cyflwr y lle."
Enillwyd y tendr i gwblhau'r gwaith gan Neil Smith a'i gwmni.
|