Disgwylir i'r dathliadau ddigwydd ym mis Mehefin a chroesewir aelodau o'r Orsedd a phlant lleol i ymuno yn y dathlu.
Ym mis Ionawr 1856 ysgrifennodd Evan James y geiriau i'r anthem wrth iddo grwydro ar hyd glannau afon Y Rhondda. Yna cyfansoddodd ei fab, James James, y dôn i gyd¬ fynd â'r geiriau. Glan Rhondda oedd teitl gwreiddiol y gân ac fe'i perfformiwyd am y tro cyntaf yn festri Capel Tabor ym Maesteg naill ai ym mis Ionawr neu Chwefror 1856, gan gantores o'r enw Elizabeth John o Bontypridd.
Fe'i cyhoeddwyd am y tro cyntaf mewn casgliad o alawon Cymreig gan Thomas Llywelyn o Aberdâr ddaeth yn fuddugol yn Eisteddfod Llangollen 1858. Yna, yn 1860, newidiwyd y teitl i Hen Wlad Fy Nhadau gan Owain Alaw a gyhoeddodd gyfrol o'r enw Gems of Welsh Melody. Ym mis Mawrth 1899 fe recordiwyd Hen Wlad Fy Nhadau yn Llundain gan Madge Breese ar gyfer y Gramophone Company a dyma'r gân Gymraeg gyntaf i gael ei recordio. Cafodd ei recordio ar ddisg saith modfedd, a hyd y gân oedd munud ac 17 eiliad.
Codwyd cofeb i Evan a James James yn 1930 ym Mharc Ynys Angharad, Pontypridd. Cynlluniwyd y gofeb gan Syr William Goscombe John.
|