Mae ei deulu yn hanu o Dalybont, Ceredigion, ac maen nhw wedi bod yn arddangos merlod mynydd a chobiau yn y Sioe ers yr un gyntaf yn Aberystwyth yn 1904 ac mae merlod Ceulan yn dyddio'n ôl i 1894. Dechreuodd Wynne gystadlu yn y Sioe yn 1949 ac mae e wedi ennill y prif gystadlaethau i ferlod droeon. Yn ogystal â chystadlu bron yn ddi-dor ers hynny mae wedi bod yn sylwebydd ar y prif gystadlaethau ar faes y Sioe am 28 mlynedd. Cyn ymddeol roedd Dr Wynne yn ddarlithydd yn UWIC, Caerdydd ac yn ogystal â'i waith a'i ddiddordebau mae wedi bod yn ohebydd y Sioe i'r cylchgrawn Horse and Hound am 52 mlynedd. Mae ei fab, David, yn bennaeth Coleg Amaethyddol Gelli Aur, Caerfyrddin ac ef bellach sy'n arddangos y merlod a'r cobiau sy'n cael eu magu ar ei fferm ym Mhontyclun. Llongyfarchiadau i Dr Wynne am ei gyfraniad arbennig i'n Sioe Amaethyddol. Cliciwch yma i fynd i wefan Sioe Amaethyddol Llanelwedd 2005 ar Lleol
|