Roeddent ar y ffordd i Lydaw i dreulio wythnos gyda disgyblion ysgol yn Lesneven, Llydaw. Bant â ni, a diolch byth doedd neb wedi chwydu ar y bws, ond roedd sawl un yn edrych braidd yn wyrdd ar y fferi, a pheth da oedd cyrraedd tir cadarn am ddeg o'r gloch y nos.
Bore Sul, ac amser i gwrdd â phawb o fy nheulu newydd. Crwydro o gwmpas y fferm, dweud helo wrth yr anifeiliaid, cael gwledd o fwyd blasus a mwynhau blas ar fywyd yn Ffrainc.
Dydd Llun, doedd dim amser i wastraffu. Am 8.30 y bore cwrddon ni yn ysgol "College Lycee St. Francois" lle'r oedd bws yn pigo ni i fyny a mynd â ni i dref Brest, lle wnaethom ymweld â'r amgueddfa bywyd môr, "Oceanopolis". Roedd y lle'n wych! Gwelsom bob math o greaduriaid rhyfedd a hynod, gan gynnwys nifer o bengwiniaid, siarcod a morloi.
Roedd dydd Mawrth yr un mor brysur. Yn y bore buon ni'n mynychu gwersi yn yr ysgol, yna ymweld â'r gegin grempog, "la creperie", lle gwelsom sut mae crempogau Ffrengig yn cael eu creu. Yn y prynhawn, buom yn cymryd rhan mewn twrnament pêl fasged yn y gwersi chwaraeon.
Pan gyrhaeddodd dydd Mercher roedd yr arian yn llosgi yn ein pocedi, felly bant â ni i'r dref fawr agosaf, Quimper. Dyna le prydferth! Siopau a thai traddodiadol a strydoedd cul hanesyddol, gwelon du mewn a thu allan i'r eglwys gadeiriol "Cathedrale St. Corentin", yna cawsom awr neu ddwy i grwydro'r dref a thwrio drwy nifer fawr o stondinau oedd ar gael yno.
Treulion ni'r rhan fwyaf o ddydd Iau yn crwydro'r stondinau ym marchnad Lannion. Yna aethom ni i bentref bach o'r enw Locronan sydd wedi cael ei ddefnyddio mewn golygfeydd sawl ffilm.
Dydd Gwener, ymweld â pharc hamdden fach "Les Trois Cures" ac i lawer o'r disgyblion, dyna oedd rhan orau'r holl daith. Yn y prynhawn aethon ni i ardal o'r enw Saint-Miguel gyda'i oleudy a thwr hynafol.
Dydd Sadwrn, ac roedd hi' n amser i ddychwelyd yn ôl i Gymru. Felly yn ôl â ni gartref.
Hoffwn ddiolch yn fawr i'n athrawes Ffrangeg, Miss Gwenllian Rees am drefnu'r daith ac i Mr Wyn Thomas a ddaeth i'n gwarchod, hefyd i Miss Hopley, MissWilliams a'r disgyblion o Ysgol Gyfun Ystalyfera fu'n gwmni yn ystod yr wythnos.
Carys Johnson 9R