Mis Mai
Neithiwr bues i yn ymarfer côr yma yn y Ganolfan - ry'n ni'n paratoi ar gyfer cystadlu yn Eisteddfod Trevelin ymhen tair wythnos. Yfory byddaf yn Nhrevelin drwy'r dydd- yn dechre' dosbarth newydd yn yr Ysgol Uwchradd- 25 wedi rhoi eu henwau ar gyfer y dosbarth dechreuwyr. Mi fydd yn dipyn o her gyda'r Sbaeneg bratiog sy 'da fi ar hyn o bryd!
Mae saith o blant bach yn y dosbarth meithrin, wedyn criw sy wedi bod yn dysgu ers sawl blwyddyn, yna dosbarth o blant hŷn ac i orffen y diwrnod, grŵp gloywi o saith - a'r bws 9.00 nôl i Esquel. Mae'r daith draw yn y dydd yn ffantastig golygfeydd o'r mynyddoedd - ar eira wrth gwrs! Does dim un pentre' rhwng Esquel a Threvelin.
Penwythnos diwetha' bues i draw yn aros yn y Gaiman gydag Esyllt, yr athrawes arall o Gymru. Mae'n daith wyth awr ar y bws ar draws y paith - es i yn y nos felly weles i ddim byd tro 'ma. Aethon i gael te yn un o'r Tai Te Cymreig - bara menyn a jam cartre, sgons, a saith gwahanol fath o deisen -jyst i un person!!! Sdim eisiau i neb i boeni mod i ddim yn cael digon i'w fwyta yma. Mae digonedd o lysiau, pasta, pitsa a phethau melys!! Rwy'n "hooked" ar dulce de leche (jam llaeth) - mae e'n debyg i fwyta jam caramel. Mae e'n lyfli ar fara ffres yn y bore!!
Cawsom gyfweliad ar Radio Chubut ma' rhaglen ddwyieithog o awr yn cael ei darlledu bob nos Wener o Drelew dim gymaint o amrywiaeth recordiau ag Alun Thomas! Bydd yn rhaid mynd â CD Côr Godre'r Garth draw gyda fi y tro nesa' af i'r Dyffryn.
Mae Esquel yn le bach prysur. Mae pob stryd yng nghanol y dre yn un ffordd. Mae'r adeiladau wedi eu gosod mewn blociau yn debyg iawn i drefi yn y U.D.A. Tu allan i'r dre mae carchar, gwersyll y fyddin, maes awyr, pwll nofio a gorsaf fysiau mawr. Yr ochor arall ar y ffordd i Drevelin mae Prifysgol. Nifer o ysgolion a'r rheini yn cael eu hadnabod gan rif yn hytrach nag enw fel arfer. Digon o siopau bach, nifer yn gwerthu dillad ar gyfer cerdded a sgïo. Archfarchnad mawr yw'r unig siop sy ar agor ar Ddydd Sul ac mae'n bosib prynu popeth yno.
Mis Gorffennaf
Anodd credu mod i yma ers bron i 3 mis. Yfory byddaf yn mynd i Futalefu sydd dros y ffin yn Chile. Mae angen stampio'r pasport er mwyn i fi gael aros am dri mis arall. Gobeithio bydd y tywydd yn well - mae hi'n arllwys y glaw heddiw. Bydd y tymor sgïo yn dechre' wythnos nesa' ac mae angen dipyn mwy o eira! Es i am dro bach lan i La Hoya ryw dair wythnos yn ôl - golygfeydd ffantastig o Esquel yn y pellter.
Penwythnos diwethaf bues i draw yn Buenos Aires - taith o dai awr yn yr awyren - a gweld Cymru yn curo'r Pumas. Roedd hi'n braf cwrdd â nifer o Gymry a mwynhau prydau bwyd ac ambell lasiad o win coch! Cawsom gyfle i weld ychydig o'r ddinas a mynd i siopa. Prynais bâr o fŵts lledr coch!
Ddoe bues i yn y pwll nofio am y tro cyntaf - mae'n rhaid i bawb gael archwiliad gan feddyg y pwll cyn mentro hyd yn oed i'r stafell newid- a'i weld yn fisol ar ôl hynny. Mae'n orfodol gwisgo cap yn y dŵr ac esgidiau plastig hyd at ymyl y dŵr!
Wythnos yma wedi bod yn gwneud murlun "Y Gaeaf' yn yr ysgol. Roedd canu am ddail y coed yn cwympo lawr ym mis Mehefin hefyd yn brofiad bach od! Rwy wrthi yn trefnu nosweithiau Cymdeithasol yma yn y Ganolfan - mis diwetha' cawsom hwyl yn edrych ar fidio "Cân i Gymru" ac yn pleidleisio i weld prun oedd y ffefryn yma yn Esquel. Nos Wener yma mae noson gwis - gyda gwin a phitsa i ddilyn!
Mae'n werth gweld ambell gar a lori yma - yn debyg i Ford Capri , Cortina a Zephyr (i'r rheiny ohonoch sy'n ddigon hen i gofio!) Ces lifft un noson o'r dosbarth nos yn Nhrevelin mewn Ford pick-up oedd yn 30 mlwydd oed. Mae'n syndod bod y ceir yma yn para mor hir yn enwedig o ystyried cyflwr y ffyrdd.
Mis Awst
Dyma fi wedi bod yma bron i bedwar mis ac wedi cael pythefnos o wylie Gaeaf. Ces gyfle i fynd i Ogledd Yr Ariannin ac fe deithies dros 60OOkm o Esquel i Bariloche ar fws. Hedfan wedyn i Cordoba - ail ddinas fwyaf y wlad ac aros yno am dridie'. Symud ymiaen ar fws dros nos i Salta - yno am dridie'.
Ces gyfle i fynd ar drip allan o'r ddinas i'r mynyddoedd - golygfeydd ffantastig a chreigiau o saith lliw gwahanol. Buon ni'n dilyn llwybr y trên - yr enwog "Trên a las Nubes"- trên y cymylau (gan ei fod yn dringo mor uchel ar y daith) Doedd dim posib cael tocyn i fynd ar y trên - roedd hin wylie i bawb a phob man yn orlawn. Buon ni hefyd yn cerdded ar lyn enfawr o halen.
Do, fe weles i lamas a phrynu un o'r hetiau bach doniol o'u gwlân gyda'r fflaps dros y clustie'! Ar y bws eto am 20 awr- i Mendoza - gwlad y gwin coch - am ddwy noson a llwyddo i ddod o hyd i siop lyfre' yn gwerthu nofelau Saesneg. Roedd y daith nôl i Esquel yn 24 awr. Mae'n debyg mod i wedi gweld mwy o'r wlad na dim un sy'n dod i'r gwersi yn Nhrevelin nac yn Esquel.
Wythnos hon buon ni'n dathlu "Gŵyl y Glaniad"- ces i'r anrhydedd o gario'r Ddraig Goch yn y seremoni o flaen y gofeb i'r Mimosa yn Nhrevelin. (Roedd rhyw naws digon militaraidd ynglŷn â'r seremoni - roedd band o filwyr yn canu'r anthemau) Yn drist iawn chlywyd yr un gair o Gymraeg a finne wedi disgwyl ychydig, o gofio taw i gofio'r Cymry cyntaf yn cyrraedd talaith Chubut oedd y diwrnod - sy , gyda llaw yn ddiwrnod o wylie' swyddogol drwy'r dalaith i bawb!
Cofion oddi wrth Jayne.