Aeth y Tywysog i ailgyfarfod â'i gyn delynores wrth ymweld ag Acapela yn hen gapel Horeb ym Mhentyrch ger Caerdydd ar Fehefin 26. Cafodd e a chyn aelodau'r capel y cyfle i weld y gwaith adnewyddu a wnaed ar yr adeilad cofrestredig.
Catrin oedd telynores y tywysog rhwng 2000 a 2005, y person cyntaf i wneud y swydd ers dyddiau'r frenhines Victoria. Mae tywysoges y delyn yn cael y clod am ddod â'r offeryn i sylw cynulleidfa fyd-eang.
Mae Acapela ('o'r capel') yn stiwdio recordio o'r radd flaenaf sydd â lle i gant a hanner o bobl i fwynhau cyngherddau. Catrin a'i gŵr y peiriannydd sain Hywel Wigley, sydd wedi creu'r stiwdio sy'n cynnwys cynifer a phosib o nodweddion y gorffennol er mwyn ychwanegu at naws hudolus y lleoliad yn y bryniau uwchben Caerdydd.
Caeodd y capel wedi i nifer y ffyddloniaid ostwng. Rhoddwyd yr adeilad cofrestredig Gradd II ar werth ac mae Catrin a Hywel wedi bod yn ei ddatblygu ers 2005. Yn ogystal â bod yn gartref ysbrydol i Catrin mae Acapela yn stiwdio recordio fasnachol yn arbennig ar gyfer recordio acwstig ac yn leoliad delfrydol ar gyfer cyngherddau bach. Ac mae gan rock'n'roll ei le hefyd - prynwyd y ddesg sain gan yr anfarwol Eric Clapton.
Mae Catrin eisoes wedi recordio Amrywiadau Goldberg yn Acapela ac mi fydd manylion y CD a thaith yn cael eu cyhoeddi'n fuan.
|