Ewch i edrych ar luniau o Barti Ponty 2005Bydd yn ddiddorol i weld sut mae pethau yn mynd gyda Radio'r Ddraig Goch a grwpiau lleol Saesneg - yn ogystal a Chymraeg - ar y Sul. Cewch chi ddweud na fydd mor Gymreig a'r Sadwrn arferol ac mae'n siŵr bod hynny yn wir ond ar y llaw arall gellid dadlau bod hyn yn gyfle gwych i gyfarfod â phobl newydd, gwerthu manteision addysg Gymraeg a cheisio eu perswadio i ddysgu'r Gymraeg eu hunain. Mae'n debyg hefyd y bydd llwythi o bobl sy'n digwydd siarad Cymraeg ta waeth ond sydd ddim fel arfer yn dewis defnyddio'r iaith a dyna gyfle da i ni ddylanwadu arnyn nhw hefyd.
Wedi'r cwbl parti ydy parti ac mae'n siŵr bydd pawb am fwynhau'r trefniadau sy'n cychwyn nos Wener yn Y Miwni gyda Noson Lawen, gyda chroeso arbennig i ddysgwyr a thiwtoriaid, gan Heather Jones, Alun Tan Lan, Ieuan Rhys, Delwyn Siôn, Stephen Cowles, Côr Cwmbach, Côr Cytgord a mwy.
Rydym yn y Miwni ar nos Sadwrn hefyd y mae Gig Parti Ponty yn cynnwys Poppies - enwogion Radio Un, Syn-d-cut gyda phrif-leisydd o brifardd "local boy made good" Aneirin Karadog a'r Llofruddion nad ydw i'n gwybod dim byd amdanyn nhw eto. Dwi yn gwybod bod Syn-d-cut yn arbennig o dda a bod lot yn edrych ymlaen at weld y Poppies. Mae tocynnau ar gael o swyddfa docynnau'r Miwni ar 01443 485934 ac er bod 400 ar gael baswn yn awgrymu eich bod yn ffonio yn fuan.
Yn ystod y dydd Sadwrn yn y parc y mae Band Dur Fitzalan i ddechrau ac wedyn nifer o gorau ysgolion cynradd gwahanol Cymraeg a Saesneg, dawnsio 12 dingo a sawl eitem a fu'n llwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd eleni - mae digon o ddewis. Bydd Martyn Geraint yn perfformio yn ôl ei arfer a hefyd Ac@ti a nifer o fandiau newydd o dan arweiniad Rhys Mwyn cwmni Sain. Mae sôn bod Stuart Cable am agor y llwyfan i ni eleni yn sgil ei lwyddiant ef yn dysgu'r anthem genedlaethol.
Bydd stondinau gan Mudiad Ysgolion Meithrin, Twf, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Consortiwm Dysgu Cymraeg i Oedolion, CYD, Gorlan Goffi Cymunedau Yn Gyntaf gyda'u llu o wirfoddolwyr brwd, Yr Urdd gyda'u wal ddringo a'u chwaraeon, stondinau ieuenctid CIC a gwasanaethau plant Menter Iaith, Cyngor Rhondda Cynon Taf, stondinau crefftwyr, copïau o'r Cymro am ddim a chymaint yn fwy.
Ydych chi'n gwybod pam fod 2006 yn bwysig i Bontypridd? Cewch ddysgu pam yn Parti Ponty wrth i ni lansio ein hymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth "Ponty 2006" trwy beintio wynebau, cwisiau a nifer o weithgareddau eraill.