A wyddoch chi fod gŵyl gerddoriaeth Gymraeg fwyaf y cymoedd yn cymryd lle yr haf hwn ar eich stepen ddrws? Wedi ei threfnu gan Gymdeithas Gymraeg Beddllwynog gyda chymorth Menter laith Merthyr Tudful - ymhlith perfformwyr yr ŵyl bydd rhai o sêr mwyaf byd cerddoriaeth Cymru.
Bydd yr ŵyl yn dechrau am 7.00yh, 20fed Mehefin pan fydd Dafydd Iwan, Heather Jones ac Alun Tan Lan yn perfformio yn Neuadd y Gweithwyr
Beddllwynog (Bedlinog) Merthyr Tudful.
Fel y byddwch yn ci ddisgwyl, ychydig iawn o'r 160 o docynnau sydd ar ôl. Ar nos Sadwrn 21ain Mehefin bydd cyfle i brofi doniau sîn gerddoriaeth gyfoes Cymru wrth i Frizbee, Mattoidz a'r adnabyddus Hanner Pei berfformio ar lwyfan Neuadd y Gweithwyr am 7.00yh. Tocynnau at gael am £6 yr un!
I'r rhai ohonoch chi na fyddwch am i'r hwyl ddod i ben, beth am ddod â sach gysgu ac aros yn y Ganolfan Adnoddau yn rhad ac am ddim? Bydd brecwast llawn ar gael o Neuadd y Gweithwyr ar y bore Sadwrn a'r bore Sul am £2.50.
Pe na bai hyn yn ddigon, bydd cyfle i brofi perfformiadau diweddaraf y sin gerddoriaeth gyfoes yn ystod gig Cymdeithas yr Iaith ar y dydd Sadwrn o 1.00 tan 6.00yp yn y Clwb Rygbi, yn rhad ac am ddim
Hefyd bydd digwyddiad ar gyfer teuluoedd ar y dydd Sadwrn l0.30 - 1.00yp yn Neuadd y Gweithwyr pan fydd Martyn Geraint yn diddanu'r plant. Bydd perfformiad gan ddisgyblion Ysgol Gymraeg Rhyd-y-Grug a bydd stondinau a mwy, sydd eto yn rhad ac am ddim!
Sesiwn gerddoriaeth werin sydd eto'n rhad ac am ddim - a gynhelir yn Nhafarn y Rheilffordd o 2.00 tan 5.00yp - fydd yn dod ag adloniant y penwythnos i ben ar ddydd Sul 22ain Mehefin. Darperir lluniaeth.
I archebu tocynnau neu am ragor a wybodaeth ffoniwch Menter Merthyr Tudful ar 01685 722176 neu Gymdeithas Gymraeg Beddllwynog ar 01443 710653.
|