Mewn bwthyn o'r
enw Bryngolau yng nghesail hen westy'r
"Castle" yng nghanol y dref y'i ganed.
Dymchwelwyd y gwesty yn 70 au y ganrif
ddiwethaf a bellach saif Neuadd y
Gweithwyr ar y safle.
Symudodd y teulu mawr - ganed 14 o
blant, tri heb oroesi'u babandod - oddi yno
yn fuan i'r Ancient Druid Inn, rhwng Argoed
a Llwyncelyn, a buont yn byw am gyfnod yn
Ffosyrhebog
ar waun Gelligaer.
Ymhen
amser, wedi iddo briodi, bu Evan yn cadw'r
Druid - ffatri wlân, tafarn a rhes o fythynnod
- ac yno ganwyd yr enwocaf o'i blant,
James, cyfansoddwr alaw Hen Wlad Fy
Nhadau. Ym 1847 symudodd y teulu i
Bontypridd, i'r ffatri yn Heolyfelin,
ac yno
bu byw nes ei farw ym 1878.
Ni chofir amdano bellach ond am eiriau'r
anthem. Eto, yn ei ddydd yr oedd yn uchel
ei barch fel bardd, cyflogwr teg a diwyd,
dinesydd cydwybodol a gŵr a thad gofalus
o'i deulu. Nodir ei enw yn rhaglen
Eisteddfod Cymreigyddion y Fenni 1838
(ddwywaith!) ymhlith y beirdd a ddisgwylid
i anrhydeddu'r ŵyl â'u presenoldeb.
Goroesodd dwy gerdd yn ei groesawu'n
frwd i Bontypridd.
Drwy gydol ei oes bu'n weithgar gydag
Urdd y Gwir Iforiaid, mudiad elusengar
Cymraeg a gwerinol oedd yn codi arian at
achosion da drwy gynnal Eisteddfodau ac
ati. Yr oedd yn eisteddfodwr brwd, yn
cystadlu, yn beirniadu neu yn llywyddu. Ei
ddiddordeb mawr arall oedd Gorsedd Cadair
Morgannwg a Gwent a bu'n gyfaill da i'w
gymydog yn Heolyfelin,
y lliwgar a
r h yf e d d ol M yf yr M or gan w g -
Archdderwydd, gwneuthurwr ac atgyweiriwr
clociau.
Ni ellir honni ei fod yn fardd fawr, eto
roedd yn gynganeddwr rhwydd a gadawodd
lwyth o englynion ar ei ôl - prin ddyrnaid
ohonyn nhw welodd olau dydd yn ystod ei
oes. Sgrifennodd eiriau ar gyfer llu o
alawon poblogaidd ei gyfnod - geiriau i'w
canu yng nghyfarfodydd yr Iforiaid.
Cyfansoddodd gerddi yn croesawu
datblygiadau diwydiannol fel agor y
rheilffordd o Bontypridd i Ferthyr ym 1841.
Ni hiraethai, fel Brynfab a Glanffrwd, am yr
hen Forgannwg cyn dyfodiad y "gweithie".
Dyn busnes oedd Evan - er mor rhamantus
ei agwedd at Dderwyddaeth, ei gariad at yr
iaith a'i ddiddordeb yn hanes ei wlad. Yr
oedd gwaith yn dod a phobol, a phobol yn
dod a busnes.
Yr oedd yn ddarllenwr mawr. Yr oedd yn
ei feddiant y ddwy gyfrol o Hanes y
Brytaniaid a'r Cymry gan Gweirydd ap Rhys
wedi eu rhwymo yn y lledr drutaf - 'doedd
Evan ddim yn brin o geiniog neu ddwy.
Dengys adroddiadau papur newydd o rai o'i
anerchiadau Eisteddfodol ôl darllen mawr
a'r un modd draethodau a anfonodd i'r
Eisteddfodau. Yr oedd yn gyfarwydd â
gweithiau Adam Smith a David Hume.
Yr oedd yn olyniaeth y dynion disglair
hynny o'r ddeunawfed ganrif y cyfeiriodd yr
Athro Gwyn Alfred Williams atynt fel yr
Oleuedigaeth Gymreig. GwÅ·r fel Lewis
Hopkin o Landyfodwg, ffermwr, crefftwr a
bardd a'i dÅ·'n llawn llyfrau Cymraeg,
Saesneg, Lladin a Ffrangeg; William
Edwards, gweinidog Groeswen, cynllunydd
Treforys ac adeiladydd pont Pontypridd;
Dafydd Niclas y bardd delynor fu'n athro
teulu Aberpergwm; Edward Ifan, Ton Coch,
ffermwr ac englynwr campus; a Morgan
John Rhys, Llanbradach, emynydd,
golygydd Y Cylchgrawn Cymraeg oedd yn
cyfieithu syniadau crefyddol deïstaidd y
Ffrancwr Volney a'i cyhoeddi yn ei
gylchgrawn.
Yn ogystal â gwehydd, bu Evan yn
dafarnwr a bragwr, a medrai honni bod yn
wneuthurwr telynau - adeiladodd ddwy o
leiaf. Yr oedd yn fardd ac y mae'n bosib
iawn ei fod yn delynor hefyd.
Gŵr gwerth ei
gofio.
Gwyn Griffiths