91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tafod Elai
Dyma ni ar ôl gorffen y gwaith addurno! Taith fythgofiadwy
Chwefror 2010
Sara Pickard o Bentyrch, sy'n gweithio gyda Mencap Cymru, yn sôn am ei thaith i Dde Affrica a Lesotho.
Fel swyddog Partneriaid mewn Gwleidyddiaeth Mencap Cymru, fe gefais gyfle anhygoel i ymweld â De Affrica a Lesotho am 12 niwrnod ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2009.

Wedi siwrne hir o faes awyr Caerdydd i Amsterdam ac yna ymlaen i Cape Town fe gyrhaeddon ni i heulwen gwresog a chael cyfle i weld rhai o ryfeddodau'r ddinas gan gynnwys wrth gwrs Table Mountain!

O Cape Town fe deithion ni mewn car ar hyd y "Garden Route" i Knysna ac yna i Port Elizabeth. Yn y ddinas honno fe wnes i gyflwyniad i Gymdeithas Syndrom Down yr Eastern Cape. Gan fod gen i Syndrom Down, roedd yn fraint i gael siarad â theuluoedd a phobol ifanc â Syndrom Down mewn rhan arall o'r byd. Roeddent yn awyddus i gyfarfod â rhywun â Down's sydd wedi creu argraff ar fywydau pobol eraill ag anabledd dysgu yma yng Nghymru.

Wrth deithio ymlaen i Grahamstown cawsom gyfle i weld y bywyd gwyllt o'n cwmpas eliffantod, jiráffs a rhinos!

Yma fe arhoson ni gyda theulu a oedd yn wreiddiol o Lanelli. Roedd ganddynt fab â Syndrom Down Tommy a oedd yn dair blwydd oed, ac fe dreulion ni beth amser yn trafod y ffyrdd rydym ni'n cefnogi pobol ag anabledd dysgu yng Nghymru.

Pen y daith oedd Lesotho gwlad sydd wedi gefeillio gyda Chymru a chartref i LSMHP, cymdeithas ar gyfer pobol ag anableddau dysgu a'u teuluoedd sydd wedi ei gysylltu â Mencap Cymru ers rhyw ddeng mlynedd. Fe dreulion ni amser mewn cartref i blant amddifaid oedd ag anghenion arbennig, nifer ohonynt hefyd yn HIV positive.

Fe fuon ni hefyd yn gweithio yn swyddfeydd LSMHP ac yn helpu i addurno stafell fyddai'n cael ei ddefnyddio fel meithrinfa i blant ifainc ag anableddau. Gweler y llun o bawb fu'n cynorthwyo yn y gwaith!

Tra buon ni yn Lesotho, fe ymunon ni yn y dathliadau ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Pobol ag Anableddau roedd e'n ddiwrnod llawn lliw, hwyl a cherddoriaeth nid yn annhebyg i'n heisteddfodau ni!! Daethom i gyfarfod nifer o swyddogion oedd yn gweithio ar brosiectau yn Lesotho, gan gynnwys Mike German AC a oedd yn gweithio yno ar yr un pryd â ni.

O ganlyniad i'r ymweliad yma, fe ddes i i ddeall mor anodd gall bywyd fod i bobol yn ardaloedd tlota'r byd, a sut mae pobol ag anableddau dysgu yn byw eu bywydau mewn gwahanol wledydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i'm cydweithwyr Wayne a Lynn ac i Mencap Cymru am y cyfle i gael "Taith Fythgofiadwy" ond yn fwy arbennig i'r bobol hynny ag anableddau dysgu a'u cefnogwyr yn Ne Affrica a Lesotho am ddangos i mi pwysigrwydd ymgyrchu am fywydau gwell i holl ddinasyddion y byd sy'n digwydd fod ag anableddau dysgu.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý