Mae rhan helaeth o'r rhifyn diweddaraf am gerddorion Efail Isaf. Roedd y Golygydd, Don Llewellyn, wedi derbyn lluniau a gwybodaeth oddi wrth Dr Colin Davies am deulu Bryant fu'n cadw'r Carpenter's Arms yn Efail Isaf. Ganwyd John Bryant yn 1832 a symudodd y teulu o'r Castellau i'r Carpenter's, Efail Isaf pan oedd yn dair mlwydd oed. Cafodd gyfle i ddysgu canu'r delyn gyda Llywelyn Williams yng Nghaerffili. Bu'n llwyddiannus yn Eisteddfodau'r cylch a bu'n canu'r delyn yn gyson i fuddugion yr ardal. Gyda'r Parchedig Watcyn Wyn a'r canwr penillion, Eos Dâr, roedd yn un o driawd a fu'n teithio'r wlad yn rhoi darlithiau 'Noswaith gyda'r Delyn'. Yn ŵr sengl, bu farw yn 93 mlwydd oed. Efallai mai'r person a gafodd ei ddylanwadu fwyaf gan John Bryant oedd ei nai, Tom Bryant, a anwyd yn 1882. Fe'i fagwyd yn y Carpenters ac enillodd ei gystadleuaeth telyn cyntaf mewn eisteddfod yn naw mlwydd oed. Datblygodd ei dalentau a daeth yn aelod o'r Academi Cerddoriaeth Brenhinol. Ef oedd y telynor swyddogol yn ystod dathliadau sefydlu Caerdydd yn ddinas yn 1906 ac fe'i apwyntiwyd yn Delynor Brenhinol. Bu'n teithio'r wlad yn gyson gyda Watkin Hezekiah Williams yn darlithio ar ganu gwerin a Robert Rees yn canu i gyfeiliant telyn Tom Bryant. Roedd yn un o deulu tafarn y Carpenter's a oedd hefyd yn aelod selog yn nghapel Tabernacl yr Annibynwyr yn Efail Isaf. Mae'r golygydd yn tybio fod y teulu unigryw hwn yn wythïen o dalent a lwyddodd i osgoi cyfyngiadau ddi-hwyl anghydffurfiaeth Cymru. Tybed a oeddynt yn adlais o'r hen amserau pan oedd bywyd gwerin yng Nghymru yn fywiog ac yn llawn hwyl ac asbri? Cewch ddarllen y cyfan am deulu Bryant a Chapel Taihirion yn y rhifyn diweddara o Garth Domain sydd ar gael oddi wrth Don Llewellyn 029 2089 0535 am £2. Tom Bryant
|