Mae eleni yn flwyddyn arbennig i gangen Tonysguboriau Merched y Wawr oherwydd byddwn ni'n dathlu deng mlynedd fel cangen. Sefydlwyd y gangen gan bedair dysgwraig ar ôl i ni orffen ar gwrs dwys gyda Basil Davies, sef Brenda Davies, Merle Roberts, Irene Evans a Margaret Jones. Ond erbyn hyn bu farw Margaret ar ôl salwch hir.
Penderfynon ni ymuno â Merched y Wawr er mwyn cael cyfle i gymdeithasu yn yr iaith Gymraeg. Ar un adeg dim ond dysgwyr oedd yn y gangen ond rydym wedi denu Cymry Cymraeg sy'n help mawr i'r gangen.
Cynhaliwyd cinio ym mwyty'r 'Barn', Mwyndy pan ddaeth ein holl aelodau at ei gilydd i ddathlu'r degawd. Cafodd Brenda ei anrhegu gyda mwclis a chlustlysau garnet gan yr aelodau mewn gwerthfawrogiad o'i gwaith fel ysgrifenyddes a thrysorydd ers sefydlu'r gangen. Cafodd Merle ei anrhegu â basged fawr o flodau am ei gwaith fel llywydd am dros bedair blynedd.
Trefnodd Beti Thomas, ein trysorydd newydd, deisen gydag arwyddlun Merched y Wawr arni a daeth Mary O'Brien â balwn a bathodyn wedi ei wneud ar ei chyfrifiadur i bob aelod, ac yn fwy pwysig na hynny daeth hi â'i chamera. Yn wir roedd yn noson i'w chofio.
I ddechrau'r flwyddyn cawson ni sgwrs am Hydref, sgwrs ddiddorol oedd hi gan Betsi Griffiths o Gilfach Goch. Ym mis Tachwedd daeth merch ifanc, Nia Clements, a dangosodd hi ei sgil with addurno teisen Nadolig. Daeth hi â llawer o deisennau a rhoddodd hi nifer o syniadau i ni. Rydym i gyd yn gobeithio gwneud y deisen orau erioed eleni!
Ym mis Rhagfyr rydym yn edrych ymlaen at ymweliad y delynores Glenda Clwyd i'n helpu i ddathlu'r Nadolig. Fe fydd e'n ddiwedd addas i'r flwyddyn hon.
Bydd y gangen yn cwrdd ar drydedd nos Fercher y mis yn y Pafiliwn, Tonysguboriau am 7.30yh. Croeso i bawb. Manylion pellach: Brenda Davies 01443 225549.
|