Mae rhoi gwybodaeth i gynifer o bobl am ddigwyddiadau penodol, cyngherddau, dramâu, a gweithgareddau plant yn gallu profi'n anodd. Mewn ymateb i'r her yma, bydd Menter Caerdydd yn lansio prosiect uchelgeisiol a chyffrous ar Ddydd Llun 31 Mawrth 2003 am 11.00 o'r gloch yn Swyddfa Menter Caerdydd i sefydlu bas-data gynhwysfawr o gyfeiriadau e-bost i gynorthwyo hyrwyddo gweithgareddau cymdeithasol Cymraeg. Bydd y gohebydd a'r cyflwynydd adnabyddus Huw Llywelyn Davies a'r newyddiadurwraig boblogaidd sy'n dysgu'r iaith Gymraeg Lucy Cohen yn cofrestru eu cyfeiriadau e-bost nhw ar y diwrnod yma ac yn helpu gyda'r lawnsiad. Mae Menter Caerdydd yn ddiolchgar iawn iddynt am eu hamser a'u cefnogaeth. Mae Menter Caerdydd yn benderfynol o sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn chwarae rhan cyfannol ym mhob agwedd o fywyd Caerdydd: y tu fewn i'r gweithle, yn ystod oriau ysgol a thu allan i'r oriau yma. Mae'r Fenter yn weithredol iawn yn trefnu cynlluniau chwarae a chlybiau cyfrwng Cymraeg ar ôl ysgol ar gyfer plant ac yn hyrwyddo'r defnydd o'r iaith Gymraeg mewn busnes ac mewn gweithgareddau cymdeithasol a hamdden ar gyfer oedolion sy'n dysgu'r Gymraeg. Dywed Siân Lewis, Swyddog Datblygu Menter Caerdydd, "Mae'r ymateb wedi bod yn syfrdanol hyd yn hyn, ac mae'r Fenter yn annog unrhyw un sydd â chyfeiriad e-bost ac â diddordeb mewn gweithgareddau o bob math trwy gyfrwng y Gymraeg i'w ddanfon atom. "I'r sawl sy heb gofrestru eto ar gyfer y gwasanaeth yma sy'n rhad ac am ddim, anfonwch eich cyfeiriad e-bost i SianLewis@mentercaerdydd.org, os gwelwch yn dda.
|